Os yw eich plentyn yn dyst i drosedd bydd disgwyl iddo roi tystiolaeth, a thybir y bydd yn gymwys i ddeall cwestiynau ac i roi atebion dealladwy. Os oes rhaid iddynt roi tystiolaeth mewn llys, mae mesurau arbennig ar gael i wneud i'ch plentyn ymlacio ac i'w helpu i gyfathrebu.
Os oes rhywun wedi riportio trosedd a bod eich plentyn yn dyst iddo, efallai y bydd eich plentyn yn ofni beth fydd yn digwydd iddo os bydd yn rhoi tystiolaeth. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn deall effeithiau negyddol pob trosedd – waeth pa mor ddifrifol ydyw – ac y bydd, drwy roi gwybodaeth, yn sicrhau na fydd yn digwydd eto.
Mewn nifer o achosion, bydd yr wybodaeth yn natganiad ysgrifenedig, neu yn natganiad fideo, eich plentyn, yn ddigonol, ac ni fydd yn rhaid iddo ymddangos mewn llys o gwbl. Mae hyn yn fwyaf tebygol mewn achosion lle mae'r diffynnydd wedi pledio'n euog.
Mae plant dan 17 oed, tystion sy'n oedolion agored i niwed a'r rheini sy'n teimlo dan fygythiad yn gymwys ar gyfer mesurau arbennig. Mae hyn yn golygu y bydd y llys yn gwneud yr hyn a all i helpu'r tyst i ymlacio er mwyn iddo allu rhoi tystiolaeth heb deimlo'n ofnus. Os oes gan dyst anawsterau cyfathrebu, bydd y llys yn ei helpu i sicrhau bod pawb yn eu deall.
Gall tyst sydd dan fygythiad neu dyst agored i niwed roi tystiolaeth mewn amryw o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mewn achosion lle mae datganiad tyst ifanc dan 17 oed wedi cael ei recordio ar fideo, gellir dangos y fideo yn Llys y Goron fel eu tystiolaeth, a'u holi a'u croesholi drwy gyswllt byw. Mae'n bosib cael cyswllt byw mewn llysoedd ynadon hefyd, ond dim ond mewn achosion sy'n ymwneud â throseddau rhyw neu achosion o drais y gellir defnyddio tystiolaeth wedi'i recordio ar fideo.
Bydd y rhan fwyaf o achosion sy'n ymwneud â diffynyddion rhwng 10 a 17 oed yn cael eu cynnal mewn llysoedd ieuenctid, sy'n fath arbennig o lys ynadon. Nid yw llysoedd ieuenctid ar agor i'r cyhoedd, a bydd yr ynadon a'r barnwyr wedi cael hyfforddiant arbennig i ymdrin ag achosion sy'n cynnwys plant a phobl ifanc.
Efallai y rhoddir fideo i chi o'r enw 'Giving Evidence – what's it really like?', a gynhyrchir gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) a ChildLine. Nod y fideo yw cynorthwyo plant a phobl ifanc i deimlo'n fwy hyderus wrth roi tystiolaeth, i ddeall beth yw eu rôl ym mhroses y llys ac i'w hannog i siarad am eu dymuniadau, eu hofnau a'u pryderon ynghylch mynd i'r llys.
Gan fod pob achos yn wahanol, dylech drafod unrhyw gwestiynau ac ymholiadau sydd gennych chi neu eich plentyn gyda'r heddwas, gweithiwr cefnogi neu eich cynrychiolydd cyfreithiol. Gall pobl ifanc rhwng 13 a 19 gael gwybodaeth, cymorth a chyngor cyfrinachol (gan gynnwys cymorth cyfreithiol) oddi ar wefan Connexions.