Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cadw plant yn ddiogel yn ystod llifogydd

Mae dŵr llifogydd yn fygythiad difrifol i iechyd a diogelwch personol, a gall plant yn arbennig fod mewn perygl. Dilynwch y rheolau syml hyn i wneud yn siŵr bod eich plant yn aros yn ddiogel.

Mannau lle ceir dŵr llifogydd

Peidiwch byth â chaniatáu i blant chwarae mewn mannau lle ceir dŵr llifogydd, a golchwch deganau sydd wedi cael eu llygru gan ddŵr llifogydd gyda dŵr poeth neu diheintiwch hwy cyn eu defnyddio. Dylech hefyd olchi dwylo eich plentyn yn gyson (cyn prydau bwyd bob amser).

Os yw llifogydd wedi cyrraedd eich cartref

Pan fyddwch yn dychwelyd i'ch cartref ar ôl llifogydd, cofiwch y gall dŵr llifogydd gynnwys carthffosiaeth. Cadwch eich hun a'ch plant yn ddiogel drwy ddilyn y camau hyn:

  • cadwch blant ac anifeiliaid anwes o'r ardal yr effeithiwyd arni nes bod y gwaith glanhau wedi'i gwblhau
  • os yw'n bosib, dylai plant ifanc iawn osgoi chwarae'n uniongyrchol ar loriau pren neu ar unrhyw loriau teils a ddifrodwyd - dylech gofio y gall ochrau miniog teils neu hoelion sydd wedi codi o'r llawr fod yn beryglus nes cânt eu trwsio
  • dylid golchi dillad, dillad gwelyau a phethau eraill meddal/wedi'u gwneud o ddefnydd, gan gynnwys teganau plant ac ati mewn dŵr poeth (60°C neu'r tymheredd uchaf a nodir yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwr), er mwyn lladd y rhan fwyaf o'r germau a all fod yn bresennol
  • peidiwch â gadael i blant ifanc chwarae mewn mannau sy'n cynnwys glaswellt neu bafin yr effeithiwyd arnynt nes bod yr ardal wedi cael ei glanhau a'i hadfer i'w chyflwr arferol
  • sicrhewch fod mannau cyfyngedig fel garejis neu selerydd yn cael eu hawyru'n dda ac na all plant nac anifeiliaid fynd i mewn iddynt

Dŵr i fabanod yn ystod llifogydd

Os bydd rhywbeth yn tarfu ar y cyflenwad dŵr yfed neu os yw wedi'i lygru, mae'n bwysig cymryd camau er mwyn sicrhau diogelwch babanod sy'n cael bwyd fformiwla. Fel arfer, darperir tanceri dŵr pur i gymunedau yr effeithiwyd arnynt gan ddŵr llifogydd. Yn yr amgylchiadau hyn ceir tri dewis o ran defnyddio dŵr i wneud fformiwla llaeth ar gyfer babanod:

  • y peth gorau i'w wneud yw berwi dŵr pur o dancer, neu ddŵr potel, a gadael iddo oeri am ddim mwy na 30 munud mewn cynhwysydd glân gyda chaead arno - yna, dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr i baratoi'r bwyd
  • gellir defnyddio llaeth fformiwla masnachol sydd wedi'i baratoi'n barod, yn hytrach na defnyddio powdwr sydd angen dŵr pur o dancer i'w baratoi
  • os nad yw'r ddau ddewis hyn yn bosib oherwydd nad oes ynni i ferwi'r dŵr, yna gellir defnyddio dŵr potel (dŵr mwynol neu ddŵr ffynnon) heb ei ferwi i baratoi bwyd babi; fodd bynnag, dylid defnyddio'r bwyd a baratoir ar unwaith ac ni ddylid defnyddio dŵr tancer heb ei ferwi

Mae'r dŵr potel a gyflenwir i'r cyhoedd gan y cwmni dŵr yn ystod llifogydd yn addas i baratoi fformiwla babanod. Os gwelir bod babanod yn sâl a'u bod yn taflu i fyny ac yn dioddef o ddolur rhydd, dylai'r rhieni geisio cyngor meddygol.

Os yw'r cwmni dŵr wedi dweud nad yw'r dŵr a gyflenwir i gartrefi'n ddiogel i'w yfed, ni chynghorir ei ddefnyddio i roi bath i fabanod. Yn y sefyllfa hon, byddai'n ddiogel defnyddio dŵr o'r tancer, neu ddŵr potel. Yn hytrach na rhoi bath i fabanod, gellir defnyddio cadachau ymolchi babanod i'w hymolchi ac i olchi eu dwylo.

Additional links

Rhybuddion llifogydd cyfredol

Dod o hyd i rybuddion llifogydd yn eich ardal chi nawr

Allweddumynediad llywodraeth y DU