Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Lles plant yn ystod achosion llys (swyddogion Cafcass)

Mae'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass) yn gofalu am les plant sy'n destun achosion llys teulu. Mae swyddogion Cafcass yn annibynnol, gyda chymwysterau mewn gwaith cymdeithasol a phrofiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd. Rhestrir y rolau a gyflawnir gan swyddogion Cafcass isod.

Gwarcheidwad Plant

Mae Gwarcheidwaid Plant yn cynrychioli hawliau a buddiannau plentyn yn ystod achosion sy'n cynnwys gwasanaethau cymdeithasol (achosion cyfraith gyhoeddus) neu achosion o herio penderfyniadau ar fabwysiadu.

Yn benodol, gallant wneud y canlynol:

  • penodi cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith deuluol ar ran y plant
  • rhoi cyngor i'r llys ar beth sydd angen ei wneud cyn y gall wneud penderfyniad
  • llunio adroddiad i'r llys yn dweud beth fyddai orau i'r plant ym marn y gwarcheidwad - rhaid i'r adroddiad hwn roi gwybod i'r llys am ddymuniadau a theimladau'r plentyn

Swyddogaeth Gwarcheidwaid Plant yw treulio amser yn dod i adnabod y plant ac aelodau eu teulu.

Swyddog Adrodd Plant a Theuluoedd

Mae Swyddogion Adrodd Plant a Theuluoedd yn helpu teuluoedd i gytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant. Fel arfer, byddant yn cwrdd â'r rhieni neu oedolion i weld a ellir cytuno ar faterion heb orfod mynd i'r llys (a elwir yn gyfryngu).

Os na ellir dod i gytundeb, bydd y swyddog adrodd plant a theuluoedd yn llunio adroddiad i'r llys. Bydd yr adroddiad hwn yn egluro pa ymholiadau a wnaed, a beth sydd orau i'r plentyn ym marn y swyddog. Yn gyffredinol, yn yr achosion hyn, swyddogion Cafcass yw unig gynrychiolwyr buddiannau'r plentyn ac maent yn ffynhonnell o wybodaeth annibynnol i'r llys.

Nid oes gwasanaeth cyfryngu ar gael ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus neu fabwysiadu.

Swyddog Mabwysiadu

Mae rôl Swyddog Mabwysiadu Cafcass yn dibynnu ar ba un a yw'r rhieni yn cytuno i fabwysiadu. Os yw'r rhieni'n cytuno, bydd y swyddog yn sicrhau bod rhieni'n deall beth y bydd mabwysiadu yn ei olygu iddynt ac yn ysgrifennu adroddiad byr ar gyfer y llys.

Os nad yw rhiant yn cytuno, neu os oes amgylchiadau arbennig, bydd Gwarcheidwad Plentyn yn cynnal archwiliad manwl ac yn ysgrifennu adroddiad i roi gwybod i'r llys a fyddai mabwysiadu er budd y plentyn ym marn y gwarcheidwad.

Cyhoeddiadau Cafcass

Mae Cafcass yn cyhoeddi pecynnau i helpu plant a phobl ifanc i ddeall y broses gyfreithiol. Gellir eu lawrlwytho o'r dolenni isod.

Cysylltiadau defnyddiol

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU