Fe all fod sawl rheswm dros fod eich teulu'n gorfod mynd i'r llys. Amlinellir rhai o'r rhesymau yn y fan hon.
Mae achosion sy'n cael eu penderfynu mewn llysoedd teulu yn cynnwys:
Mae mabwysiadu'n weithred gyfreithiol sy'n trosglwyddo cyfrifoldeb rhiant dros blentyn o un teulu i deulu arall, gan gynnwys mabwysiadu llysblant.
Pan fydd rhieni'n gwahanu neu'n ysgaru ac yn methu cytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant, gall y llysoedd teulu gyhoeddi Gorchymyn Cyswllt neu Orchymyn Preswylio a fydd yn pennu hawliau ymweld a lle bydd y plentyn yn byw.
Gall gwasanaethau cymdeithasol ofyn i'r llysoedd roi:
os byddant yn teimlo mai dyma fyddai orau er lles y plentyn neu er mwyn ei ddiogelwch.
Bydd ymarferwr CAFCASS (Y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd) yn cynghori'r llys fel bod y penderfyniadau y maent yn eu gwneud er lles gorau plant.
Cynhelir y rhan fwyaf o achosion llysoedd teulu mewn preifat. Ni chaniateir mynediad i'r cyfryngau ac ni fydd y penderfyniadau'n cael eu rhyddhau i'r cyhoedd fel arfer. Hyd yn oed ar ôl iddynt dyfu'n oedolion, nid yw plant y mae eu bywydau wedi cael eu newid gan benderfyniad bob amser yn gallu canfod beth oedd penderfyniad y llys, a pham y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Mae hyn wedi arwain at y teimlad bod llysoedd teulu'n gweithredu'n gyfrinachol a'u bod yn anatebol.
Mae'r Adran Materion Cyfansoddiadol wedi cynnig cynlluniau i agor llysoedd teulu i'r cyfryngau - cyn belled bod yr unigolion sy'n gysylltiedig â'r achos yn aros yn ddi-enw. Mae'r adran hefyd yn gofyn i bobl roi eu sylwadau ar ba wybodaeth a ddylai fod ar gael i oedolion a oedd yn gysylltiedig ag achosion teulu pan oeddent yn blant, gan gynnwys rhesymau dros benderfyniadau a effeithiodd ar eu dyfodol.
Ymgynghorwyd â'r cyhoedd ynghylch y cynigion yn ddiweddar, ac mae'r llywodraeth yn awr yn rhoi papur ymateb ffurfiol at ei gilydd yn seiliedig ar sylwadau'r cyhoedd.