Ceir peth tystiolaeth sy'n awgrymu bod gwylio gormod o deledu neu chwarae gormod o gemau cyfrifiadur yn gallu lleihau rhychwant sylw plant, neu gyfrannu at ordewdra ymhlith plant.
Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol adolygiad o'r holl dystiolaeth a ddengys mai treulio gormod o amser o flaen y teledu, yn fwy na thebyg, yw un o'r ffactorau sy'n golygu y bydd plentyn yn bwydo mwy o egni i'r corff nag y mae'n ei ddefnyddio, ac o ganlyniad yn mynd dros ei bwysau neu'n ordew. O ganlyniad, mae'r sefydliad yn awgrymu y dylai rhieni a gofalwyr wneud y canlynol:
Nid oes amheuaeth nad yw'r teledu'n gallu bod yn gyfrwng addysgu defnyddiol. Gall helpu plant i ddysgu cyfathrebu a gall hefyd danio'u dychymyg, felly ychydig yn eithafol fyddai rhwystro'ch plentyn rhag gwylio'r teledu'n gyfan gwbl. Mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu i gadw'r cyfnod y mae'ch plentyn yn ei dreulio o flaen y teledu yn rhesymol. Efallai yr hoffech roi cynnig ar rai o'r pethau canlynol:
Os bydd popeth arall yn methu, a'ch bod yn dal i boeni ynghylch yr amser y mae eich plentyn yn ei dreulio'n gwylio'r teledu, mae pethau ar gael ar y farchnad sy'n gallu rhwystro plant rhag gwylio rhaglenni penodol, a chyfyngu nifer yr oriau y gall y teledu fod ymlaen. Holwch yn eich siop nwyddau trydannol leol neu chwiliwch ar y we i gael gwybod mwy.
Mae'r rhyngrwyd hefyd yn gyfrwng addysgu gwerthfawr ond mae'n syniad da cyfyngu nifer yr oriau y mae'ch plentyn yn eu treulio arno. Mae'r un peth yn wir am gonsolau gemau. Mae'n bosib bod eistedd o flaen sgrin, boed yn gyfrifiadur neu'n deledu, yn risg i'r iechyd. Ceisiwch annog eich plentyn i chwarae y tu allan a chyfathrebu gyda phlant eraill.
Bydd cadw plant yn egnïol o fudd iddynt mewn sawl ffordd, gan gynnwys eu helpu i dyfu a datblygu'n iach, hybu eu lefelau egni a'u lles seicolegol, a'u galluogi i ryngweithio'n gymdeithasol.
Mae'r Prif Swyddog Meddygol yn argymell y dylai plant a phobl ifanc wneud gweithgareddau egnïol am o leiaf awr bob dydd.