Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Diddyfnu eich babi

Bydd babanod fel rheol yn barod i ddechrau bwyta bwyd solid pan fyddant tua chwe mis oed a dyma pryd y dylid mynd ati'n raddol i gyflwyno bwyd nad yw'n cynnwys llaeth i'ch babi - proses a elwir yn 'ddiddyfnu'.

Ambell i awgrym

Bydd rhai babanod yn addasu i fwydydd solid yn haws nag eraill, felly mae'n werth ystyried y cyngor canlynol:

  • dechreuwch drwy gynnig ambell lwy de o fwyd yn unig, unwaith y dydd
  • cynheswch y bwyd yn drylwyr a gadewch iddo oeri, a blaswch ef eich hun i wneud yn siŵr ei fod yn iawn cyn ei roi i'ch babi
  • taflwch unrhyw fwyd nad yw'ch babi wedi'i fwyta a pheidiwch â'i ailgynhesu
  • bwydwch yn ôl gofynion eich babi er mwyn rhoi amser iddo ddod i arfer â blas ac ansawdd gwahanol fwydydd
  • arhoswch yn agos at eich babi pan fydd yn bwyta er mwyn gwneud yn siŵr nad yw'n tagu
  • peidiwch â phoeni os yw'ch babi'n gwrthod cymryd y bwyd - bydd eich babi'n gwybod pryd mae wedi cael digon
  • bwydwch eich babi ar adeg o'r dydd pan mae wedi ymlacio fel arfer
  • gadewch i'ch babi fod yn rhan o'r broses drwy ei annog i ddefnyddio'i fysedd neu lwy a bwydo'i hun
  • stwnsiwch fwyd y teulu pan allwch chi – bydd hyn yn helpu eich babi i ddod i arfer â bwyta beth bynnag yr ydych chi'n ei fwyta
  • rhowch amrywiaeth o fwydydd i'ch babi eu blasu, a bwydydd sy'n amrywio o ran ansawdd hefyd
  • gwnewch yn siŵr bod popeth a ddefnyddiwch i fwydo eich babi yn lân iawn

Bwydydd i’w hosgoi

Mae'n syniad da ceisio cyflwyno amrywiaeth o flasau i'ch babi yn gynnar. Fodd bynnag, mae rhai bwydydd na ddylai fod yn rhan o'u deiet:

  • bwydydd hallt (ee bacwn, caws, selsig) – peidiwch ag ychwanegu halen at unrhyw fwydydd gan na all arennau'ch babi ymdopi ag ef
  • bwydydd sy'n cynnwys siwgr – peidiwch ag ychwanegu siwgr at unrhyw fwyd na diod
  • mêl – mae hwn hefyd yn cynnwys siwgr ac ni ddylid ei roi i fabanod dan flwydd oed
  • cnau – ni ddylid rhoi cnau cyfan i blant dan bump oherwydd fe allant dagu arnynt

Diddyfnu cyn chwe mis

Os penderfynwch ddiddyfnu eich babi cyn iddo fod yn chwe mis oed, dylech osgoi'r bwydydd canlynol oherwydd fe allant beri adwaith alergaidd neu gynnwys bacteria niweidiol:

  • bwydydd â gwenith sy'n cynnwys glwten (e.e. blawd gwenith, bara, grawnfwydydd brecwast, rhysgenni ayb)
  • cnau a hadau, gan gynnwys cnau mân
  • wyau
  • pysgod a physgod cregyn
  • caws meddal a chaws heb ei basteureiddio

Rhoi mwy o fwyd solid

Gallwch roi bron unrhyw fath o fwyd cartref i'ch babi, cyn belled â'i fod wedi'i stwnsio neu wedi'i wneud yn biwré ac nad oes dim halen na siwgr wedi'i ychwanegu ato.

Mae'n bwysig cynnig amrywiaeth o wahanol fwydydd solid er mwyn darparu'r fitaminau a'r mineralau angenrheidiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • bwydydd starts gyda phob pryd: tatws, iams, reis, bara, plantain neu rawnfwydydd brecwast heb siwgr
  • llysiau a ffrwythau mewn dau bryd bwyd neu ragor bob dydd
  • pysgodyn neu gig wedi'i goginio'n feddal, wy (wedi'i goginio'n dda), tofu neu gorbys (ffa neu lentils) unwaith neu ddwy y dydd

Bwydydd bys a bawd

Hyd yn oed os nad yw eich babi wedi dechrau cael dannedd eto, gallwch annog eich babi i gnoi a bwydo ei hun drwy roi'r bwydydd canlynol iddo eu bwyta â bys a bawd:

  • tost
  • crystiau
  • bara 'pitta'
  • cacennau reis
  • sleisys o ffrwythau meddal fel bananas, gellyg, eirin gwlanog neu felon
  • darnau o frocoli, blodfresych, courgettes neu foron wedi'u coginio
  • caws wedi'i dorri'n flociau bach
  • pasta wedi'i goginio

Fitaminau

Dylai menywod beichiog, neu fenywod sy'n ceisio beichiogi, gymryd asid ffolig atodol bob dydd a pharhau i'w gymryd tan 12fed wythnos y beichiogrwydd. Dylai pob menyw feichiog a phob menyw sy'n bwydo ar y fron gymryd fitamin D atodol bob dydd hefyd.

Chwe mis ar ôl geni – os yw'ch babi'n bwydo ar y fron – dylech roi diferion fitaminau A, C a D iddo. Os yw'ch babi'n cael ei fwydo â fformiwla llaeth, mae'r fitaminau atodol wedi'u hychwanegu'n barod, felly cyn belled â bod eich babi'n yfed 500ml (peint) o fformiwla bob dydd, ni fydd angen rhoi diferion fitaminau iddo.

Mae'n syniad da parhau i roi diferion fitaminau i'ch plant nes byddant yn bump oed, ac mae hyn yn arbennig o bwysig i blant sy'n ffyslyd o ran beth maent yn ei fwyta. Bydd y croen yn gwneud fitamin D yn naturiol pan fydd yn cael ychydig o haul, felly dylech annog eich plant i chwarae yn yr awyr agored (gan gymryd gofal i wneud yn siŵr nad ydynt yn llosgi).

Gall eich ymwelydd iechyd ddweud wrthych pa ddiferion fitaminau sy'n addas. Os ydych chi eisoes yn rhan o'r Cynllun Cychwyn Iach (gweler isod), gallwch eu hawlio am ddim gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol heb brescripsiwn.

Y Cynllun Cychwyn Iach

Os ydych chi'n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm neu Gredyd Treth Plant (heb Gredyd Treth Gwaith) a bod incwm eich teulu yn £15,575 neu'n llai, gallwch gael llaeth, ffrwythau, llysiau, llaeth fformiwla a fitaminau gan y cynllun Cychwyn Iach. Gall mamau hefyd gael fitaminau ar eu cyfer eu hunain, gan gynnwys tabledi fitamin D, fitamin C ac asid ffolig.

Gallwch hefyd gael cymorth gan y cynllun hwn os ydych chi'n feichiog ac yn iau na 18 oed, hyd yn oed os nad ydych yn cael y budd-daliadau a'r credydau treth hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU