Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bwyta'n iach i blant (blwydd oed a hŷn)

Erbyn i'ch plentyn ddechrau sefyll a chymryd ei gamau cyntaf, dylai ymuno â phrydau bwyd y teulu. Gan fod plant yn fwy bywiog yn yr oedran hwn, bydd angen deiet amrywiol, yn cynnwys llawer o egni arnynt er mwyn iddynt dyfu'n iach.

Mathau o fwyd

Stumogau bach sydd gan blant bach o dan ddwy oed ac ni allant fwyta llawer o fwyd ar y tro, felly mae angen prydau bach arnynt a byrbrydau iach rhwng prydau. Fel gweddill y teulu, dylai eich plentyn bach fwyta amrywiaeth o fwydydd o'r pedwar grŵp canlynol:

  • cynnyrch llaeth - llaeth, caws, iogwrt, fromage frais
  • bara, tatws a grawnfwydydd eraill - gan gynnwys reis, pasta, india-corn, grawnfwydydd brecwast, chapatti ac ati
  • pob math o ffrwythau a llysiau
  • cig, pysgod a dewisiadau eraill (unwaith neu ddwy y dydd) - gan gynnwys dofednod, wyau, ffa, corbys a chnau (ond dim cnau cyfan i blant o dan bump oed)

Gellir rhoi rhywfaint o fwydydd sy'n cynnwys braster a siwgr iddynt hefyd (e.e. bisgedi, cacennau, pwdinau, hufen iâ, brasterau ac olewau), ond nid yn lle'r bwydydd a restrir uchod.
Gallwch roi hyd at bedwar dogn o bysgod olewog yr wythnos i fechgyn (fel macrell, eog a sardinau), ond ni ddylech roi mwy na dau ddogn yr wythnos i ferched.

Os ydych yn magu eich plentyn yn llysieuwr neu'n fegan, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi dau neu dri o brydau o lysiau neu gnau y dydd iddo er mwyn sicrhau ei fod yn cael digon o brotein a haearn.

Llaeth

Mae llaeth yn bwysig o hyd i blant yr oedran hwn. Mae llaeth cyflawn a chynnyrch llaeth braster llawn yn ffynhonnell dda o fitamin A sy'n helpu'r corff i wrthsefyll heintiau ac mae'n angenrheidiol i gael croen a llygaid iach. Gallwch barhau i roi llaeth o'r fron ar ôl i'r babi droi'n flwydd oed os dymunwch, ond dylech roi llaeth buwch braster llawn i'ch plentyn hefyd mewn cwpan neu ficer fel ei brif ddiod (dylai hyn wneud yn lle fformiwla llaeth babi yn llwyr erbyn hyn).


Dylech barhau i ddefnyddio llaeth braster llawn a chynnyrch llaeth (caws, iogwrt, fromage frais ac ati) nes bydd eich plentyn yn ddwy oed, gan fod angen y braster a'r fitaminau ychwanegol arno hyd at yr oedran hwn. Gellir cyflwyno llaeth hanner sgim pan fydd y plentyn yn ddwy oed, ar yr amod bod eich plentyn yn bwyta ac yn tyfu'n dda.


Nid yw llaeth sgim yn addas ar gyfer unrhyw blentyn o dan bum mlwydd oed.

Bwydydd grawn cyflawn

Gellir cyflwyno bwydydd grawn cyflawn fel bara grawn cyflawn, pasta grawn cyflawn a reis brown yn raddol, fel y bydd eich plentyn yn gyfarwydd â bwyta'n iach a deiet oedolion amrywiol erbyn iddo droi'n bump oed. Nid yw'n syniad da rhoi bwydydd grawn cyflawn yn unig iddo fodd bynnag, gan y gallant lenwi eich plentyn yn rhy gyflym gyda'r holl galorïau y mae eu hangen arno.

Peidiwch ag ychwanegu bran at rawnfwydydd na defnyddio grawnfwydydd sy'n cynnwys llawer o fran gan y gallant ymyrryd â gallu'r corff i amsugno haearn.

Cynigiwch ffrwythau a llysiau gyda phob pryd

Mae llawer o blant yn dweud nad ydynt yn hoffi llysiau wedi coginio felly efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn ddyfeisgar - er enghraifft, gallech wneud puree ohonynt i'w rhoi mewn saws. Os yw eich plentyn yn gwrthod bwyta llysiau o gwbl, dylech barhau i'w cynnig ond dylech hefyd gynnig mwy o ffrwythau iddo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos eich bod yn hoffi bwyta llysiau, a pheidiwch â gwneud llawer o ffws os ydynt yn gwrthod. Dylid rhoi diferion fitamin i bob plentyn o dan bump oed (gweler isod), er mwyn sicrhau ei fod yn cael popeth y mae eu hangen arno. Dyma rai syniadau ar sut i wneud ffrwythau a llysiau yn fwy o ran o ddeiet eich plentyn:

  • rhowch lysiau neu binafal ar bizza
  • rhowch foron wedi'u torri'n ffyn, sleisys o bupur ac afal wedi'i blicio fel byrbrydau
  • cymysgwch lysiau wedi'u malu neu wedi'u stwnsio gyda reis, tatws wedi'u stwnsio, cig neu dhal
  • cymysgwch ffrwythau gyda fromage frais i wneud pwdin blasus
  • torrwch eirin neu fricyll sych mewn grawnfwyd neu iogwrt, neu eu hychwanegu at stiw

Cael digon o haearn

Mae diffyg haearn yn arwain at anaemia, a all ohirio datblygiad corfforol a meddyliol eich plentyn. Mae dau fath o haearn i gael - mae'r math cyntaf mewn cig a physgod a chaiff ei amsugno'n hawdd gan y corff. Mae'r ail fath mewn bwyd planhigion ac nid yw mor hawdd ei amsugno. Mae bwyta cig neu bysgod yn ddefnyddiol gan eu bod yn cynnwys llawer o haearn a'u bod hefyd yn helpu'r corff i amsugno haearn o fwydydd eraill. Mae hefyd yn syniad da rhoi bwyd neu ddiod sy'n cynnwys llawer o fitamin C amser bwyd, gan eu bod yn helpu i amsugno haearn o ffynonellau nad ydynt yn gig.

Fitaminau a Chychwyn Iach

Mae angen i blant dan bump oed sy'n bwydo ar y fron gael diferion fitamin A, C a D (nid oes angen y rhain ar blant sy'n yfed 500ml o laeth fformiwla bob dydd gan fod y fitaminau eisoes wedi'u cynnwys). Efallai fod gennych hawl i gael llaeth, ffrwythau a llysiau ffres, llaeth fformiwla a fitaminau am ddim dan y cynllun Cychwyn Iach.

Gall plant ddysgu am o ble y daw bwyd a chael awgrymiadau ar fwyta’n iach yn yr adran DirectgovKids.

Allweddumynediad llywodraeth y DU