Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Iselder ar ôl geni

Mae iselder ar ôl geni (PND) yn gyffredin iawn ymysg rhieni newydd ac fe all effeithio ar hyd at un ym mhob chwech o famau newydd. Er ei fod yn beth anghyffredin, gall tadau hefyd ddioddef o PND.

Symptomau PND

Gellir datblygu symptomau hyd at ddwy flynedd wedi'r enedigaeth; gall y rhain gynnwys:

  • colli mwynhad a diddordeb mewn bywyd
  • teimladau o iselder
  • gorflino a diffyg egni
  • diffyg hunan-barch
  • teimladau o euogrwydd a phesimistiaeth
  • colli diddordeb ynoch eich hun ac yn eich babi
  • symptomau corfforol megis cur yn y pen, poen yn y stumog neu olwg aneglur
  • bod yn bigog a dagreuol

Symptom arall mewn mamau sy'n dioddef o PND yw meddwl am wneud niwed i'ch babi. Mae hyn yn gyffredin dros ben, gan ddigwydd mewn tua hanner o'r holl achosion. Efallai y byddwch hefyd yn meddwl am eich niweidio'ch hun.

Os ydych chi'n credu bod gennych y rhain neu unrhyw symptomau eraill o PND, mae'n bwysig mynd i weld eich meddyg yn syth. Mae cael triniaeth a gwella eto'n bwysig i chi, i'ch babi ac i'ch partner.

Darganfod PND

Efallai y bydd eich meddyg yn rhoi prawf gwaed i chi, rhag ofn bod rheswm arall dros eich symptomau, megis chwarren thyroid nad yw'n ddigon gweithgar, neu anaemia. Efallai y bydd yn gofyn deg cwestiwn syml i chi hefyd, sydd wedi'u llunio er mwyn cadarnhau eich bod yn dioddef o'r cyflwr.

Mae rhai meddygon yn defnyddio'r cwestiynau hyn, o'r enw 'Graddfa Iselder Ôl-enedigol Caeredin', yn ystod beichiogrwydd i weld a yw'r fam yn debygol o gael PND ar ôl y geni.

Trin PND

Mewn rhai achosion, bydd meddygon yn rhoi cyffuriau gwrth-iselder er mwyn trin PND. Tabledi yw cyffuriau gwrth-iselder sy'n cydbwyso'r cemegion hynny yn eich ymennydd sy'n newid tymer, gan gael gwared ar deimladau isel. Mae cwrs o gyffuriau gwrth-iselder yn para fel arfer am oddeutu pedwar i chwe mis, ond os yw'ch cyflwr yn dechrau gwella efallai y bydd y cyfnod hwn yn cael ei leihau.

Trin achosion difrifol

Ar ei ffurf mwyaf difrifol, adnabyddir PND fel seicosis ôl-enedigol. Yn yr achosion hyn, ceir symptomau gwahanol - yn ogystal â meddwl am ei lladd ei hun, gallai'r dioddefydd gael rhithweledigaethau, ymddwyn yn afresymol a chredu pethau sydd ddim yn wir.

Efallai y bydd angen triniaeth wahanol hefyd. Mewn nifer o achosion, bydd cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio, ond nid dyna'r achos i bawb. Efallai y rhoddir tawelyddion yn lle hynny, ond dim ond am gyfnod byr.

Cefnogaeth gan eich teulu a’ch ffrindiau

Y cam cyntaf tuag at wella yw cydnabod bod gennych broblem a mynd at y meddyg. Yr ail gam yw trafod pethau gyda'ch teulu a'ch ffrindiau, gan y gallan nhw helpu i rannu'r baich. Peidiwch â chadw popeth sy'n eich poeni i chi'ch hun - siaradwch â'r rheini sy agosaf atoch. Fe synnwch wrth weld faint y gall hyn eich helpu i wella.

Cwnsela

Gall siarad â rhywun proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi yn y maes fod yn driniaeth hynod o ddefnyddiol i wella PND hefyd. Trafodwch eich dewisiadau gyda'ch meddyg. Efallai y byddan nhw'n awgrymu eich bod yn mynd i weld gweithiwr cymdeithasol, neu'n ymuno â grwp hunangymorth. Gallant hefyd eich cyfeirio at seicolegydd neu arbenigwr arall ar iechyd meddwl.

Cymdeithas Salwch Ôl-Enedigol (APNI)

Mae gan y Gymdeithas Salwch Ôl-Enedigol linell gymorth ar 020 7386 0868 - dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10.00 am a 2.00 pm, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10.00 am a 5.00 pm.

Mae'r Gymdeithas Salwch Ôl-Enedigol yn cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i ferched sydd wedi cael eu heffeithio gan iselder ôl-enedigol. Mae yna rwydwaith o wirfoddolwyr sy'n cynnig cefnogaeth dros y ffôn, neu ar ebost, neu drwy'r post i famau sy'n dioddef o iselder. Mae taflenni ar gael hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU