Mae colig a chlefyd melyn yn gyffredin mewn babanod sydd newydd gael eu geni, ac er y byddant efallai'n gwneud i chi boeni, nid oes unrhyw un o'r ddau yn achosi problemau iechyd yn y tymor hir fel arfer.
Y ffordd orau o ddisgrifio colig yw pan fydd eich babi, sydd fel arall yn iach ac yn cael digon o fwyd, yn crio'n barhaus. Gall y crio, a fydd fel arfer yn digwydd gyda'r nos, ymddangos yn uwch ac yn fwy difrifol nag arfer, a gall fod yn llawer anoddach tawelu'r babi a'i gael i setlo. Efallai y bydd y babi hefyd yn codi ei ben-gliniau tua'i frest ac yn gwasgu ei ddyrnau'n dynn. Yn gyffredinol, dim ond yn ystod y pedwar mis ar ôl yr enedigaeth y bydd babanod yn cael colig.
Does neb yn gwybod yn iawn beth sy'n achosi colig, ond gallai'r achosion posib gynnwys y canlynol:
Does dim ffordd bendant o 'wella' colig, ac oherwydd nad oes neb yn gwybod yn iawn beth sy'n ei achosi, mae'n anodd nodi triniaethau llwyddiannus. Efallai na fydd rhywbeth sy'n gweithio i rai rhieni yn gweithio i rieni eraill, ond efallai y byddai'n werth cofio'r pethau hyn:
Efallai y gallai mamau sy'n bwydo ar y fron geisio bwyta llai o lysiau fel blodfresych, brocoli a bresych. Mae'r rhain yn gallu achosi gwynt, a all waethygu colig. Fodd bynnag, fel gyda chynnyrch llaeth, os nad yw pethau'n gwella dylech wedyn ddychwelyd at eich deiet arferol. Os ydych chi'n bwydo ar y fron, cofiwch ei bod yn bwysig bod eich deiet yn cynnwys digon o galsiwm.
Nid oes angen triniaeth feddygol ar gyfer colig, ond os yw'ch babi'n crio drwy'r amser mae'n naturiol i chi boeni, a byddai hefyd yn naturiol i chi fod eisiau chwilio am gymorth proffesiynol. Os penderfynwch wneud hyn, yn gyntaf oll, gwnewch yn siŵr nad un o'r canlynol sy'n poeni'ch babi:
Yn aml, mae colig yn effeithio mwy ar y rhieni nag ar y babi ei hun. Gall delio â chrio cyson babi fod yn flinedig, yn llawer o straen, ac yn rhwystredig iawn pan fyddwch yn teimlo nad ydych yn gallu ei helpu. Y peth pwysicaf i'w gofio yw eich bod yn cael amser i chi'ch hun er mwyn ymlacio. Gofynnwch i aelodau o'r teulu neu warchodwr yr ydych yn ymddiried ynddynt edrych ar ôl eich babi am ychydig oriau tra'ch bod chi'n cael amser i chi'ch hun.
Yn olaf, ceisiwch gofio nad eich bai chi ydyw - nid ydych chi wedi gwneud unrhyw beth i wneud eich babi yn anghyfforddus, mae colig yn gyffredin iawn.
Gyda chlefyd melyn, bydd gwyn llygaid y baban a chroen y baban yn ymddangos yn felyn. Mae'n gyffredin mewn babanod ac ni fydd fel arfer yn gwneud niwed o gwbl.
Gan nad yw iau/afu babanod newydd-anedig wedi aeddfedu, gall y clefyd melyn fod yn gyffredin ynddynt hwy. Un o swyddogaethau'r iau yw tynnu cemegyn melyn o'r enw bilirwbin o'r corff.
Canfyddir bilirwbin mewn bustl, a chaiff ei wneud wrth i gelloedd coch y gwaed sy'n cario ocsigen o amgylch y corff ddadfeilio. Fel arfer, mae'r corff yn tynnu bilirwbin o lif y gwaed drwy ei basio drwy'r iau/afu. Os oes gormod o filirwbin yn y gwaed neu os nad yw'r iau yn medru cael gwared ohono am ryw reswm, gall hyn arwain at glefyd melyn.
Mae llawer o fabanod, yn arbennig babanod a fwydir ar y fron, yn dangos symptomau clefyd melyn am hyd at bythefnos ar ôl yr enedigaeth.
Cyhyd â bod y babi fel arall yn iach ac yn bwydo'n iawn, nid oes achos i chi boeni os bydd clefyd melyn arno am y pythefnos cyntaf ar ôl iddo gael ei eni.
Efallai y bydd eich meddyg yn argymell cynnal prawf gwaed, ond os bydd yr wrin yn ddi-liw ac nad yw'r carthion o liw golau, nid oes angen i chi boeni.
Os bydd eich babi yn dal yn felyn ar ôl pythefnos, a bod ei wrin yn dywyll neu'i garthion yn olau, ewch i weld eich meddyg ar unwaith.