Efallai y gwelwch fod gan eich plentyn gyflwr iechyd yn ystod sgan pan fyddwch yn feichiog, adeg y geni, neu efallai y sylwch ar rywbeth yn ymddygiad eich plentyn yn fuan wedi hynny.
Os bydd y sonograffydd (y gweithiwr proffesiynol sy'n gwneud y sgan) yn gweld unrhyw beth anghyffredin, dylai eich cyfeirio at feddyg o fewn 24 awr ac - os oes angen - at arbenigwr o fewn 72 awr. Bydd y meddygon hyn yn gallu dweud mwy wrthych am y cyflwr ac am driniaethau posib.
Bydd y pediatrydd (meddyg sy'n arbenigo mewn gofal ar gyfer plant) yn yr ysbyty yn gallu dweud wrthych am gyflwr eich plentyn ac am driniaeth bosib. Os yw'n gyflwr anghyffredin efallai y bydd y pediatrydd yn eich cyfeirio at arbenigwr. Bydd y pediatrydd yn gallu ateb y rhan fwyaf o'ch cwestiynau. Yna bydd yn ysgrifennu adroddiad ac yn ei anfon at eich meddyg teulu.
Dylech gael manylion cyswllt rhywun a all ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ar ôl eich trafodaeth gyntaf gyda'r pediatrydd. Gallai hyn fod mewn cyfarfod gydag arbenigwr neu feddyg arall yn yr ysbyty, eich meddyg lleol neu'ch ymwelydd iechyd. Dylai cyfarfod dilynol gael ei drefnu hefyd.
Dylech bob amser gael y canlynol:
Gallwch hefyd ofyn am ail farn os dymunwch.
Pan fydd diagnosis wedi'i wneud ac y gwyddys pa gyflwr sydd ar eich plentyn, cynigir asesiad i'ch plentyn. Gallai hyn arwain at gefnogaeth ychwanegol, cymorth ariannol a mwy.
Bydd ystod o fudd-daliadau ar gael i chi pan fyddwch yn dod yn rhiant, a chewch fwy os yw'ch plentyn yn anabl. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod beth mae gennych hawl iddo.
I gael cymorth a chyngor, gall rhieni plant anabl ffonio llinell gymorth Contact a Family ar 0808 808 3555 (rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 5.30pm a 7.30pm ar nos Lun).