Mae'n naturiol i blant bach wrthod bwyta neu hyd yn oed flasu bwydydd newydd. Byddant yn dysgu bwyta a mwynhau bwydydd newydd drwy efelychu'ch ymddygiad chi, felly bwytewch gyda'ch plentyn mor aml â phosib. Fodd bynnag, os yw'ch plentyn yn colli pwysau, dylech gysylltu â'ch meddyg.
Gall fod yn gyfnod pryderus iawn os yw'ch plentyn yn gwrthod bwyta neu os yw'n anodd ei blesio, ond ceisiwch gofio bod hwn yn gyfnod cwbl arferol. Bydd plant yn bwyta digon i'w cynnal, felly ceisiwch beidio â phoeni onid yw'n amlwg nad yw'ch plentyn yn ennill pwysau neu'n amlwg ddim yn dda.
Mae'n bosib bod eich plentyn yn synhwyro eich teimladau chi am fwyd. Efallai eich bod ar ddeiet neu fod gennych broblem â'ch pwysau, neu efallai fod bwyta'n iach yn nod bwysig iawn i chi. Os yw'ch plentyn yn synhwyro'ch pryder efallai fod amser bwyd wedi dod yn amser delfrydol i gael sylw.
Cyn belled â bod eich plentyn yn bwyta rhywfaint o fwyd o bob un o'r pum grŵp bwyd – hyd yn oed os mai'r un hen ffefrynnau y mae'n eu bwyta o hyd – ni ddylech boeni. Cofiwch, os yw eich plentyn yn fywiog ac yn ennill pwysau, mae'n cael digon i'w fwyta, hyd yn oed os nad yw'n bwyta llawer yn eich barn chi.
Rhowch gynnig ar rai o'r pethau hyn os ydych yn dal i gael trafferth cael eich plentyn i fwyta:
Bydd rhai plant yn cael adweithiau annymunol ar ôl bwyta rhai bwydydd – fel tagu, taflu i fyny, cael brech, dolur rhydd neu gosi yn y geg neu yn y gwddf – ond yn aml bydd y rhain yn diflannu wrth i'r plentyn fynd yn hŷn. Fodd bynnag, gyda rhai plant, mae'n bosib y bydd rhai bwydydd yn peri adwaith mor ddrwg y gall beryglu eu bywydau. Gelwir hyn yn anaphylacsis. Mae symptomau anaphylacsis yn amrywio, ond os yw'ch plentyn yn llewygu neu'n cael trafferth anadlu bydd angen i chi ffonio 999 ar unwaith. Dyma'r bwydydd mwyaf tebygol o beri adwaith alergaidd:
Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn yn adweithio i fwyd penodol, ewch at eich meddyg neu siaradwch â'ch ymwelydd iechyd. Peidiwch â chael eich temtio i arbrofi drwy beidio â rhoi math pwysig o fwyd (megis llaeth) i'ch plentyn, oherwydd fe allech fod yn tynnu maeth pwysig o'i ddeiet.
Mae alergedd i gnau daear yn bryder arbennig. Y plant sy'n wynebu'r risg fwyaf o fod ag alergedd i gnau daear yw'r rheini y mae eu rhieni neu'u brodyr neu'u chwiorydd yn dioddef o glwy'r gwair, asthma, ecsema neu unrhyw alergedd bwyd arall. Y cyngor yw peidio â rhoi cnau daear a bwydydd sy'n cynnwys cnau daear (fel 'peanut butter' neu olew cnau daear) i blant yn y categori risg hwn nes eu bod yn dair oed.
Mae'r bacteria sy'n achosi gwenwyn bwyd yn peri bygythiad arbennig i fabanod a phlant ifanc, felly mae'n bwysig iawn storio, paratoi a choginio'r bwyd yn ddiogel, a chadw'r gegin, y bwrdd torri bwydydd a'r offer coginio yn lân. I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch bwyd ewch i'r adran iechyd a lles.