Nid yw hi byth yn rhy gynnar i ystyried sut rydych chi am fwydo'ch plentyn. Ystyrir bwydo o'r fron yn well i'ch baban, ond nid dyma'r unig ffordd, a hwyrach y bydd yn well gan rai mamau fwydo o'r botel.
Cofiwch:
Mae bwydo o'r fron yn sgil, ac mae'n rhaid ymarfer bob sgil newydd. Os hoffech fwydo o'r fron ond yn ei chael yn anodd, gofynnwch i'ch bydwraig am help neu ewch i weld cwnselydd bwydo o'r fron. Ceir rhestr isod o ddolennau lle gallwch gael help.
Gall bwydo o'r botel ymddangos yn waith caled ar brydiau, ond unwaith y dewch i drefn byddwch yn gallu ymlacio a mwynhau bwydo.
Un fantais o fwydo o'r botel yw y gall tadau a gofalwyr fwydo eich baban gan roi tipyn o lonydd i chi. Gallwch ddefnyddio fformiwla neu roi llaeth o'r fron mewn potel i'ch baban. Gallwch ddefnyddio cyfuniad o laeth o'r fron wedi'i botelu a fformiwla. Byddai'r holl ddewisiadau hyn yn rhoi'r maeth sydd ei angen ar eich baban.
Cofiwch:
Dim ond i fabanod sydd ag alergedd i laeth buwch neu ar gyngor eich meddyg yn unig y dylid rhoi fformiwla soia i fabanod. Mae'n bosibl bod gennych hawl i gael llaeth fformiwla yn rhad ac am ddim o dan y cynllun Cychwyn Iach.