Mae'n rhaid cofrestru eich baban yn yr ardal lle cafodd ei eni. Yn aml iawn, gellir gwneud hyn yn yr ysbyty cyn i'r fam fynd adref; fel arall, bydd rhaid ymweld â swyddfa gofrestru.
Rhaid i chi gofrestru genedigaeth eich baban o fewn 42 diwrnod i'r enedigaeth yng Nghymru a Lloegr, ac o fewn 21 diwrnod yn yr Alban. Os na allwch fynd i'r ardal lle ganed eich baban, gallwch fynd i swyddfa arall (o fewn 42 diwrnod) a bydd y cofrestrydd yn anfon eich manylion i ardal y swyddfa briodol. Os ganed y baban o fewn Cymru a Lloegr fodd bynnag, rhaid ei gofrestru o fewn Cymru a Lloegr. Mae'r un peth yn wir ar gyfer yr Alban.
Dim ond yn Saesneg y gellir cofrestru genedigaeth sy'n digwydd yn Lloegr, ond gellir cofrestru genedigaeth yng Nghymru yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. I wneud hyn, rhaid rhoi'r manylion yn Gymraeg, a rhaid i'r cofrestrydd allu deall ac ysgrifennu Cymraeg.
Bydd oriau agor swyddfeydd cofrestru yn amrywio o un ardal i'r llall, ac mae'r mwyafrif yn defnyddio system trefnu apwyntiad.
Os oedd rhieni'r plentyn yn briod adeg y geni neu'r beichiogi, gall y naill riant neu'r llall gofrestru'r enedigaeth ar ei ben/phen ei hun. Os nad oeddent yn briod, mae angen iddynt benderfynu a ydynt am gael enw a manylion y tad ar y gofrestr.
Ceir ffyrdd hefyd o gynnwys enw rhiant ar y gofrestr hyd yn oed os na allant fod yn bresennol yn y swyddfa gofrestru. I gael mwy o wybodaeth, defnyddiwch y ddolen isod.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae cael cyfrifoldeb rhiant am blentyn yn golygu mai chi sy'n gyfreithiol gyfrifol am wneud penderfyniadau am fywyd eich plentyn: er enghraifft o ran gofal meddygol ac addysg. Bydd gan rieni priod gyfrifoldeb rhieni ar y cyd am eu plant yn awtomatig, ond nid yw hyn yn wir am rieni di-briod. I ddysgu mwy am gyfrifoldeb rhieni, cliciwch ar y ddolen isod.
Byddwch yn cael tystysgrif geni fer a cherdyn cofrestru y bydd angen i chi ei lenwi a mynd ag ef i'ch meddygfa leol. Ni fyddwch yn gallu cofrestru'ch plentyn gyda meddyg heb y cerdyn cofrestru hwn a bydd arnoch angen y dystysgrif geni am sawl rheswm, megis er mwyn gwneud ceisiadau am Fudd-daliadau Plant.
I gael manylion am y gwahaniaethau yn y ffordd yr ymdrinnir â'r mater hwn ar draws y DU, ewch i'n tudalennau gwybodaeth am Ogledd Iwerddon a'r Alban.
Bellach, mae gan rieni'r dewis i gynnal seremoni enwi plentyn. Nid seremoni grefyddol yw hi fel y cyfryw, ond cyfle i ddathlu genedigaeth plentyn a/neu groesawu plant newydd i'r teulu (megis plant sydd wedi'u mabwysiadu).
Gall y rhieni enwebu oedolion eraill i fod yn gefn i'w plentyn - sy'n debyg i enwebu tad bedydd neu fam bedydd pan gaiff plentyn ei fedyddio. Fodd bynnag, nid oes sail gyfreithiol i seremonïau enwi.
Rhaid cyflwyno tystysgrif geni adeg archebu'r seremoni gyda'r cyngor lleol.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.