Bydd deiet iach, amrywiol a chytbwys yn help i chi a'ch babi ffynnu wrth fwydo ar y fron. Mae gwybod beth i'w fwyta, faint i'w fwyta, pa fitaminau i'w cymryd, a beth i'w osgoi yn bwysig iawn, oherwydd bydd beth bynnag sy'n mynd i'ch corff chi hefyd yn mynd i gorff y babi.
Argymhellir cymryd 10 microgram (mcg) atodol o fitamin D bob dydd. Os byddwch yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, mae gennych hawl i gael fitaminau A, C a D yn rhad ac am ddim gan glinigau mamolaeth a iechyd plant.
Dylech geisio bwyta'r bwydydd canlynol fel rhan o ddeiet iach:
Os ydych yn bwydo ar y fron, dylech osgoi:
Ceir llawer o wybodaeth am fwyta'n iach yn y llyfr 'Birth to Five', sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan eich meddyg, eich bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd.
Gall diodydd sy'n cynnwys caffein boeni eich babi, felly peidiwch ag yfed gormod o de, coffi na diodydd cola. Bydd yfed llawer iawn o alcohol yn effeithio ar eich babi: ceisiwch beidio ag yfed gormod, gan yfed yn achlysurol yn unig ac osgoi yfed cyn i chi fwydo eich babi.