Os bydd eich plentyn yn cael ei eni'n fuan, gelwir hyn yn enedigaeth gynamserol.
Efallai y bydd angen cymorth i anadlu, bwydo a chadw'n gynnes ar fabanod sy'n cael eu geni cyn 34 wythnos. Mae babanod cynamserol sy'n cael llaeth o'r fron yn gwneud yn well, felly meddyliwch o ddifri am fwydo o'r fron. Os na allwch fod gyda'ch plentyn drwy'r amser, ceisiwch odro'r fron fel y gall nyrsys roi eich llaeth i'ch baban pan na fyddwch chi yno.
Mae'n bwysig iawn i chi gyffwrdd, cofleidio a siarad â'ch baban. Gellir cyffwrdd babanod sydd mewn deoryddion hefyd, ond cofiwch olchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr yn gyntaf.
Os yw'ch baban yn cael ei eni cyn pryd bydd eich meddyg yn egluro unrhyw ystyriaethau ac yn ateb unrhyw gwestiynau a fydd gennych.