Os ydych chi'n ceisio cael baban, mae yna rai pethau y gallwch eu gwneud i helpu i sicrhau bod eich beichiogrwydd yn ddiogel a chyfforddus a bod eich plentyn yn iach.
Dylech wneud ymarfer corff cymedrol yn rheolaidd fel bod eich corff mewn cyflwr da ar gyfer y beichiogrwydd ac er mwyn i chi gael digon o egni a stamina i esgor babi a gofalu amdano.
Dilynwch ddeiet cytbwys, iach drwy geisio bwyta:
Dylech geisio osgoi:
Gall yfed alcohol, hyd yn oed yn gymedrol, niweidio eich siawns o feichiogi. Mae hyn yn berthnasol i ddynion a menywod, felly os ydych chi'n cael trafferth beichiogi, dylech osgoi alcohol am ychydig a gweld a yw hynny'n helpu.
Mae ysmygu hefyd yn lleihau eich siawns o feichiogi'n sylweddol, yn cynyddu eich siawns o golli'r babi, ac os parhewch i ysmygu yn ystod y beichiogrwydd, gallai eich babi gael ei niweidio. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.
Gall defnyddio cyffuriau afraid a chyffuriau anghyfreithlon achosi perygl o golli'r baban, genedigaeth gynamserol a datblygiad gwael i'r baban. Peidiwch â chymryd unrhyw gyffuriau yn ystod eich beichiogrwydd nac yn y mis cyn beichiogi.
Os ydych chi'n bwriadu beichiogi a'ch bod ar y bilsen, mae'n well aros tri mis ar ôl ei chymryd cyn ceisio beichiogi - bydd hyn yn lleihau'r perygl o golli'r baban. Gall eich meddyg roi cyngor am ddulliau atal cenhedlu eraill.
Cymerwch dabled fitaminau sy'n cynnwys 400 microgram o asid ffolig bob dydd am fis cyn beichiogi, a thrwy ran gyntaf eich beichiogrwydd, fel rhan o'ch deiet iach. Ceir tystiolaeth bod asid ffolig yn lleihau'r risg o ddiffygion tiwb niwral yr ymennydd a madruddyn y cefn (megis spina bifida) mewn plant sydd heb eu geni.
Os oes hanes o spina bifida yn eich teulu, neu os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth am epilepsi, os ydych chi'n ddiabetig neu os oes gennych chi glefyd coeliag, siaradwch â'ch meddyg. Efallai y byddant yn awgrymu eich bod yn cynyddu'r dos i bump miligram y dydd.
Sicrhewch fod eich ychwanegiadau fitamin yn cynnwys sinc (30mg y dydd), seleniwm (100mg y dydd), haearn a'r fitaminau A, B, C ac E. Bydd nifer o fferyllwyr yn gallu rhoi ychwanegiad fitaminau a mwynau syml i chi sy'n cynnwys eich holl ofynion dyddiol.
Mae angen i chi sicrhau eich bod wedi diweddaru eich brechiadau i gyd. Y pwysicaf o'r rhain yw rwbela. Os daliwch rwbela ym mhedwar mis cyntaf eich beichiogrwydd, gall achosi diffygion golwg a chlyw difrifol yn eich baban. Os ydych yn ansicr, gofynnwch i'ch meddyg wirio eich statws imiwnedd dri mis cyn yr adeg yr ydych yn bwriadu beichiogi.
Mae cynllunio beichiogrwydd yn gyfle da i'r ddau riant gael archwiliad iechyd llawn. Os yw eich meddyg yn bwriadu rhagnodi meddyginiaeth neu wrthfiotigau newydd i chi, atgoffwch ef eich bod yn cynllunio beichiogrwydd.
Os oes hanes teuluol o gyflyrau meddygol ar y naill ochr neu'r llall, megis ffibrosis y bledren neu ddiabetes, rhowch wybod i'ch meddyg. Efallai y bydd angen cwnsela genetig arnoch gydag arbenigwr hyfforddedig.
Gellir trosglwyddo rhai heintiau a drosglwyddir drwy ryw i'ch babi yn ystod beichiogrwydd, felly sicrhewch eich bod ill dau wedi cael eich trin am unrhyw heintiau cyn ceisio beichiogi.
Os oes gan y fam gyflwr meddygol megis diabetes neu epilepsi - neu os yw'n cael ei thrin am iselder neu salwch meddwl arall - bydd angen archwilio'r feddyginiaeth tuag at y rhain i sicrhau nad ydynt yn effeithio ar y baban.
Dangoswyd bod straen yn effeithio ar bwysau gwaed, rheoli hormonau a'r gylchred fislifol. Os ydych chi'n ceisio beichiogi neu os ydych chi'n cael trafferth wrth feichiogi, ceisiwch gael gwared ag unrhyw straen yn eich bywyd bob dydd.
Gall beichiogi ddigwydd ar unwaith, ond bydd rhai pobl yn gorfod aros llawer hirach. Os ydych chi'n cael problemau wrth geisio beichiogi a'ch bod yn poeni bod un ohonoch yn anffrwythlon, siaradwch â'ch meddyg a bydd yn trefnu prawf.
Ar ôl i ganlyniadau'r profion gael eu harchwilio, bydd eich meddyg yn awgrymu triniaeth addas. Dyma rai o'r dewisiadau: