Er y gall y broses esgor ddechrau unrhyw bryd yn ystod eich beichiogrwydd, yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd yn dechrau tan y 37ain wythnos ar y cynharaf - sef tair wythnos cyn y dyddiad disgwyl.
Wrth i'ch dyddiad disgwyl nesáu, mae'n bwysig iawn eich bod yn barod am y broses esgor, oherwydd gall ddigwydd unrhyw bryd. Sicrhewch eich bod yn gwybod sut y byddwch yn mynd i'r ysbyty, a bod gennych chi fag sy'n cynnwys popeth y bydd ei angen arnoch (gan na fyddwch yn gwybod pa mor hir fydd y broses esgor yn para).
Dyma rai pethau y gallech fod eisiau mynd â hwy gyda chi:
Mae'n debygol y bydd yr ysbyty'n gallu darparu rhai o'r rhain, neu bob un ohonynt, ond mae'n siŵr y byddech yn fwy cyfforddus o fynd â'ch pethau chi. Nid yw'r rhestr hon yn un gyflawn o reidrwydd, felly meddyliwch beth arall y gallai fod ei angen arnoch.
Pan fydd y broses esgor yn dechrau, bydd un neu fwy o'r pethau canlynol yn digwydd (mae'r broses yn wahanol i bawb):
Os nad ydych chi'n siŵr a yw'r broses esgor wedi dechrau ai peidio, ffoniwch eich meddyg neu'ch bydwraig a byddant yn gallu dweud wrthych.
Mae'n bosibl cael cyfangiadau heb i'r broses esgor fod wedi dechrau. Gelwir hyn yn ffug esgor. Byddwch mewn ffug esgor os nad yw ceg y groth wedi ymledu (bydd eich bydwraig neu eich meddyg yn dweud wrthych a yw hyn wedi digwydd ai peidio) ac os nad yw eich cyfangiadau'n mynd yn agosach at ei gilydd ac yn gryfach.
Os yw eich beichiogrwydd yn para mwy na 42 wythnos, gelwir hyn yn feichiogrwydd hirfaith. Ar ôl 42 wythnos, efallai y bydd eich bydwraig neu eich meddyg yn argymell eich bod yn ystyried cymell geni, yn enwedig os ydych chi wedi mynd 10 i 14 diwrnod dros 42 wythnos. Y rheswm am hyn yw y gallai eich babi gael ei niweidio drwy aros yn y groth yn rhy hir.
Mae cymell geni eich babi yn golygu gwneud i'r broses esgor ddigwydd. Gelwir y dull mwyaf cyffredin o gymell geni yn sgubo pilen. Mae hyn yn golygu gwahanu'r 'bag' o bilenni sy'n amgylchynu eich babi oddi wrth geg y groth, sy'n achosi i hormon gael ei ryddhau sy'n dweud wrth yr ymennydd am ddechrau'r broses esgor. Gall meddyg neu fydwraig gyflawni'r broses o sgubo pilen yn ystod archwiliad mewnol syml.