Os oes hanes o efeilliaid yn eich teulu ar ochr y fam, neu os ydych wedi cael triniaeth ffrwythlondeb i'ch helpu i feichiogi, efallai eich bod yn fwy tebygol o gael genedigaeth luosog. Bydd cyfnod beichiogrwydd lluosog yn aml yn llai na'r cyfnod llawn (40 wythnos o ddiwrnod cyntaf y mislif diwethaf).
Mae cyplau sy'n cael pedrybledi neu bumledi (a mwy) ar ôl triniaeth ffrwythlondeb yn brin. Gefeilliaid yw'r mwyafrif helaeth o enedigaethau lluosog. Yn fras, o gyfanswm o 715,556 beichiogrwydd yn 2005, gefeilliaid oedd 10,553 ohonynt a dim ond 159 oedd yn dripledi.
Caiff gefeilliaid eu creu mewn dwy ffordd:
Fel arfer, yn ystod eich sgan uwchsain cyntaf y cewch wybod yn bendant eich bod yn disgwyl gefeilliaid.
Ni fydd eich beichiogrwydd yn wahanol iawn i unrhyw feichiogrwydd arall. Mae'n bosib, wrth gwrs, y byddwch yn fwy na mamau sy'n cario dim ond un babi, a gallai cyfnod y beichiogrwydd fod yn llai. Ar gyfartaledd, 37 wythnos yw cyfnod beichiogrwydd mamau sy'n feichiog â gefeilliaid.
Bydd nifer o obstetryddion yn argymell toriad cesaraidd, yn enwedig ar gyfer menywod sy'n famau am y tro cyntaf. Fodd bynnag, bydd rhai mamau sy'n geni gefeilliaid yn gallu gwneud hynny yn y ffordd arferol (drwy'r wain), yn enwedig os yw'r ddau fabi'n barod i ddod allan gyda'u pennau'n gyntaf. Ond gyda gefeilliaid, mae'n fwy tebygol y bydd un o'r babanod yn gorwedd yn ffolennol (ei goesau'n dod allan yn gyntaf), ac os na ellir ei droi efallai y bydd angen cael toriad cesaraidd.
Ystyrir bod unrhyw fabi a gaiff ei eni cyn 37 wythnos yn fabi cynamserol. Dyma ffactorau a allai achosi genedigaeth gynamserol:
Os caiff eich babi neu'ch babanod eu geni cyn pryd efallai y bydd angen gofal arbennig arnynt am ychydig wythnosau cyntaf eu bywyd. Bydd hyn yn aml yn golygu y bydd angen iddynt aros mewn crud cynnal, a fydd yn eu helpu i anadlu'n rhwydd ac yn ail-greu'r teimlad o fod yn y groth.
Mae bwydo'n bwysig iawn yn y cyfnod hwn, a llaeth o'r fron yw'r gorau. Os na allwch fod gyda'ch babi drwy'r amser, ceisiwch odro'r fron fel y gall nyrsys roi eich llaeth i'ch babi pan na fyddwch chi yno.
Mae'n bwysig iawn i chi gyffwrdd, cofleidio a siarad â'ch babi. Gellir cyffwrdd babanod sydd mewn crud cynnal hefyd, ond cofiwch olchi a sychu'ch dwylo'n drylwyr yn gyntaf.