Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cwynion cyffredin yn ystod beichiogrwydd

Gall bydwraig, meddyg neu fferyllydd ymdrin yn rhwydd â'r rhan fwyaf o broblemau iechyd sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd. Gall problemau mwy cymhleth ddod i'r amlwg gyda rhai mamau, ac efallai y bydd gofyn mynd i'r ysbyty neu i glinig cyn-geni er mwyn ymdrin â'r rhain.

Salwch bore

Mae'n gyffredin iawn teimlo'n sâl yn ystod cyfnod cynharaf beichiogrwydd - bydd hyn yn effeithio ar oddeutu 80 y cant o fenywod. Fel arfer, ceir salwch bore yn ystod tri mis cyntaf y beichiogrwydd, er y gall bara'n hirach i rai menywod.

Symptomau

Er y cyfeirir ato fel salwch bore, gall y symptomau bara drwy'r dydd. Gall symptomau amrywio - bydd y rhan fwyaf o famau yn teimlo'u bod am gyfogi ond ni fyddant yn sâl, ond bydd rhai menywod yn methu cadw bwyd i lawr.

Achosion

Bydd salwch bore yn cael ei achosi gan hormonau sy'n helpu yn y broses o ddatblygu'r babi a'r brych. Er bod y symptomau'n annymunol, ni fyddant yn niweidio'r ffetws sy'n datblygu.

Awgrymiadau

Gallwch helpu i atal salwch bore drwy wneud y canlynol:

  • bwyta prydau bach yn aml
  • bwyta byrbrydau carbohydrad, sych, drwy gydol y dydd
  • dod o'r gwely yn y bore wrth eich pwysau
  • gorffwys am gyfnodau drwy gydol y dydd
  • yfed digon o ddŵr neu sudd ac osgoi alcohol a chaffein

Rhwymedd

Un o'r cwynion mwyaf cyffredin yn ystod beichiogrwydd yw rhwymedd - bydd yn effeithio ar oddeutu hanner menywod beichiog. Wrth i'r groth dyfu mae'n rhoi pwysau ar ran isaf y coluddyn (neu'r rectwm) ac mae'r hormonau beichiogrwydd yn arafu'r broses dreulio. Mae hyn yn golygu ei bod yn cymryd mwy o amser i fwyd deithio drwy'r corff.

Gall deiet o fwydydd sy'n uchel mewn ffibr - gan gynnwys ffrwythau a llysiau ffres, grawnfwydydd a bara grawn cyflawn - helpu i atal rhwymedd. Argymhellir yfed digon o ddŵr a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd er mwyn ysgogi'r coluddyn a rhoi cymorth i'r system dreulio.

Rheoli poen yn ystod beichiogrwydd

Gall menywod beichiog ddioddef cur pen ysgafn a mathau eraill o wayw a phoen. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio pob math o boenladdwyr yn ystod beichiogrwydd.

Nid yw'n ddiogel defnyddio cyffuriau gwrthlidiol ansteroidol (NSAIDs) megis Ibubrofen yn ystod beichiogrwydd. Fe allant beri i chi gamesgor neu beri i chi esgor cyn pryd, ac fe allant darfu ar y ffordd y mae'r arennau'n gweithio. Nid yw asprin yn cael ei argymell ar gyfer lleddfu poen oherwydd fe all gynyddu'r risg o waedu.

Gall analgesia â Chodeine achosi problemau anadlu i'r babi yn nes ymlaen yn y beichiogrwydd - dim ond yn ystod y dyddiau cynnar y dylid ei gymryd, a hynny dan oruchwyliaeth meddyg. Fodd bynnag, mae Paracetamol yn ddiogel i'w ddefnyddio o bryd i'w gilydd drwy gydol y beichiogrwydd. Bydd fferyllwyr yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch beth sy'n addas.

Peswch ac annwyd

Os byddwch yn cael annwyd yn ystod eich beichiogrwydd, holwch eich fferyllydd cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth dros y cownter. Bydd llawer yn cynnwys gwrth-histamin neu Godeine ac ni chynghorir i chi gymryd y rhain yn ystod beichiogrwydd. Gallwch roi cynnig ar therapïau eraill, fel anadlu'r stêm o gymysgedd o ddŵr a halen er mwyn gallu anadlu'n well, neu gymryd linctus ar gyfer peswch parhaus. Bydd Paracetamol yn helpu i wella cur pen.

Newidiadau yn y croen a brechau

Bydd llawer o fenywod yn gweld bod eu croen yn newid yn ystod beichiogrwydd - gelwir y rhan fwyaf o'r newidiadau hyn yn 'ffisiolegol', sy'n golygu eu bod yn gwbl gyffredin ac yn cael eu cysylltu â beichiogrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gorbigmentiad - y tethi a'r organau cenhedlu yn tywyllu o ran lliw
  • Linea Nigra - llinell dywyll, sydd weithiau'n flewog, rhwng y botwm bol â rhan pwbig y corff
  • Striae Gravidarum - marciau ymestyn o amgylch yr abdomen wrth iddo ymestyn, a'r rheini fel arfer yn binc ar y dechrau ac yn mynd yn wyn neu'n sgleiniog ar ôl y geni
  • gwythiennau faricos ar y coesau

Gall brechau fel ecsema a psoriasis effeithio ar fenywod beichiog hefyd. Mae'n ddiogel defnyddio hufenau croen megis hufen calamine i liniaru'r croen. Bydd eich meddyg yn eich cynghori ar ddefnyddio hufenau steroid.

Ceir ambell frech sydd ond yn ymddangos yn ystod beichiogrwydd a elwir yn ddermatoses beichiogrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

PUPPP (Papiwlau Danadfrechol sy'n Cosi a Phlaciau Beichiogrwydd)

Dyma'r math mwyaf cyffredin o gyflwr a geir ar y croen yn ystod beichiogrwydd. Mae'r enw'n cyfeirio at y lympiau coch sy'n ymddangos ar yr abdomen ac ar y cluniau, a'r rheini'n cosi. Bydd fel arfer i'w weld yn hwyr yn ystod cyfnod y beichiogrwydd, ond nid yw'n achosi niwed i'r fam na'r babi.

Prurigo Gestationis

Bydd y frech hon yn ymddangos fel dotiau coch sy'n cosi ac fel arfer byddant wedi'u gwasgaru ar draws y breichiau, y coesau a'r torso. Gall y frech ymddangos tua chanol neu tua diwedd y beichiogrwydd. Gall therapi syml gyda gwrth-histaminau leddfu'r cosi a bydd y frech yn diflannu o fewn ychydig wythnosau i'r enedigaeth.

Prwritis

Gall menywod hefyd ddioddef cosi heb i frech ymddangos - gelwir hyn yn brwritis a gall ddigwydd o ganlyniad i fymryn o glefyd melyn. Un o'r symptomau yw y bydd y llygaid a'r croen yn mynd yn felyn yn raddol. Colestasis intrahepatig sy'n achosi hyn - nid yw'r iau yn prosesu bustl mor effeithiol yn ystod beichiogrwydd ac felly gall cynhyrchion sydd wedi'u torri i lawr gasglu yn y croen, gan achosi clefyd melyn a chosi. Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor meddygol os oes gennych unrhyw un o'r symptomau ynghyd â brech sy'n cosi.

Os oes gennych unrhyw frech anghyffredin neu os bydd eich croen yn newid mewn unrhyw ffordd, mae bob amser yn well mynd i gael sylw meddygol.

Additional links

Gwybod Faint i'w Yfed

Gallwch gael gwybod sawl uned o alcohol sydd yn eich hoff ddiod, sut i fwynhau yfed yn gyfrifol a mwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU