Weithiau gall beichiogrwydd arwain at gyflyrau meddygol a allai beri niwed i chi neu i'ch baban. Gall yr arwyddion a'r symptomau amrywio, yn ogystal â thriniaethau. Dyma rai o'r cymhlethdodau mwyaf cyffredin, a sut y cânt eu trin.
Pwysau gwaed uchel a achosir gan feichiogrwydd yw hyn. Mae'n digwydd mewn 10 y cant o bob beichiogrwydd yn y tri mis olaf. Fodd bynnag, dim ond mewn oddeutu un o bob 50 beichiogrwydd y bydd ffurf ddifrifol yn digwydd.
Beth sy'n achosi cyneclampsia
Nid yw'n gwbl glir beth sy'n achosi cyneclampsia, ond y dyb yw ei fod yn gysylltiedig â diffygion yn y brych. Mae rhai mamau mewn mwy o berygl o ddatblygu cyneclampsia. Mae'r rhain yn cynnwys mamau sydd:
Triniaeth ar gyfer cyneclampsia
Bydd archwiliadau pwysau gwaed ac wrin rheolaidd yn helpu i ganfod cyneclampsia. Os ceir diagnosis o'r cyflwr, efallai y bydd rhaid mynd i'r ysbyty i fonitro a chael meddyginiaeth ar gyfer pwysau gwaed uchel. Os bydd y cyflwr yn gwaethygu a bod y babi mewn perygl, efallai y bydd rhaid i'r meddyg gymell y broses esgor neu wneud toriad Cesaraidd.
Bydd hyn yn digwydd pan fydd beichiogrwydd yn datblygu y tu allan i'r groth, fel arfer yn un o'r tiwbiau Fallopio. Ni fydd embryo beichiogrwydd ectopig yn goroesi, a chaiff y babi ei golli. Gall canlyniadau beichoigrwydd ectopig beryglu bywyd.
Symptomau beichiogrwydd ectopig
Y symptomau mwyaf cyffredin yw poen yn yr abdomen a phwysau gwaed isel ar ôl cael prawf beichiogrwydd positif neu fethu mislif. Efallai mai dim ond positif gwan fydd y prawf beichiogrwydd, felly dylai unrhyw fenyw sydd mewn oed cario plentyn sy'n cael poenau anarferol yn yr abdomen fynd i weld meddyg. Fel arfer, bydd angen archwiliad mewnol a sgan uwchsain er mwyn rhoi diagnosis.
Triniaeth ar gyfer beichiogrwydd ectopig
Mae angen llawdriniaeth ar gyfer y rhan fwyaf o achosion beichiogrwydd ectopig - fel arfer, llawdriniaeth twll clo i dynnu'r embryo ac, mewn rhai achosion, y tiwb Fallopio hefyd. Gall hyn arwain at lawdriniaeth agored os ceir cymhlethdodau. Yr ail ddewis yw triniaeth gyda Methotrexate, cyffur sy'n lleihau'r celloedd sydd wedi ffrwythloni. Fel arfer, defnyddir hyn yn ogystal â llawdriniaeth.
Gelwir diabetes sy'n digwydd yn ystod beichiogrwydd yn ddiabetes beichiogi. Mae'n effeithio ar tua phump y cant o bob menyw feichiog, ac mae'n digwydd am nad yw'r pancreas yn cynhyrchu digon o inswlin.
Beth sy'n achosi diabetes beichiogi
Hormon yw inswlin sy'n rheoli lefelau siwgr, neu glwcos, y corff. Gan fod angen mwy o inswlin ar fenywod beichiog i gadw lefel siwgr eu gwaed i lawr, gall rhai menywod ddatblygu diabetes dros dro yn ystod ail hanner eu beichiogrwydd. Dyma rai o'r ffactorau risg:
Triniaeth ar gyfer diabetes beichiogi
Caiff lefelau glwcos eich gwaed eu profi yn eich clinigau cyn-geni. Os cewch ddiagnosis o ddiabetes beichiogi, efallai y cewch eich atgyfeirio at glinig arbenigol a redir gan ddiabetolegydd. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff eich glwcos ei reoli am weddill y beichiogrwydd. Gall diffyg rheolaeth glwcos arwain at fabanod macrosomig (tew) - babanod a all gael problemau yn ystod yr esgoriad neu ddatblygu problemau eraill yn fuan ar ôl yr enedigaeth, megis clefyd melyn neu broblemau anadlu. Bydd gennych hefyd fwy o risg o farwenedigaeth.
Bydd triniaeth yn cynnwys gweld deietegydd a datblygu cynllun o ymarfer corff ysgafn, rheolaidd. Efallai y bydd angen pigiadau inswlin ar rai menywod er mwyn rheoli eu lefelau glwcos. Efallai y bydd eich obstetregydd yn penderfynu cymell y broses esgor wythnos neu ddwy cyn eich dyddiad disgwyl. Mae toriadau Cesaraidd hefyd yn fwy cyffredin mewn diabetes beichiogi.
Ar ôl genedigaeth, ni fydd angen inswlin ar y rhan fwyaf o fenywod. Fodd bynnag, byddant mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes math 2 yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Mae ychydig bach o waedu mewn tymor - os nad ydych chi mewn poen ac os yw sganiau uwchsain wedi dangos bod y brych yn rhan uchaf y groth - yn normal. Fodd bynnag, gall gwaedu yn ystod beichiogrwydd fod yn ddifrifol ac ni ddylid ei anwybyddu. Os bydd gwaedu'n digwydd unrhyw bryd, gorffwyswch, gorweddwch i lawr a threfnwch i gael gweld meddyg, y gwasanaethau mamolaeth lleol neu eich bydwraig ar unwaith. Gellir gwneud hyn y tu allan i oriau gwaith arferol.
Beth sy'n achosi gwaedu
Yr achos mwyaf cyffredin o waedu yn hwyr mewn beichiogrwydd yw newidiadau diniwed yng ngheg y groth. Fodd bynnag, gall hefyd fod o ganlyniad i gyflwr a elwir yn placenta previa, lle mae'r brych mewn safle isel ac yn gorwedd dros agoriad ceg y groth. Gall hefyd fod o ganlyniad i doriad brych swta, lle mae'r brych wedi dod yn rhydd o wal y groth. Os mai toriad brych swta sy'n achosi'r gwaedu, fel arfer ceir poen yn yr abdomen hefyd.
Triniaeth
Bydd eich meddyg neu fydwraig yn eich cynghori am y peth gorau i'w wneud. Ar gyfer placenta previa, gallai hyn gynnwys cymell y broses esgor. Ar gyfer toriad brych swta, efallai y bydd angen toriad Cesaraidd. Os yw'r symptomau'n llai difrifol, efallai mai dim ond cyfnod monitro byr yn yr ysbyty fydd ei angen.