Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhyw yn ystod beichiogrwydd

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd cael rhyw yn ystod beichiogrwydd yn fygythiad i chi nac i'r babi sydd heb ei eni, ond mae angen ystyried rhai pethau er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfforddus.

Cyfforddusrwydd a diogelwch

Wrth i'r babi ddatblygu ac wrth i stumog y fam dyfu, efallai y bydd yn rhaid i chi roi cynnig ar rai safleoedd gwahanol er mwyn gwneud rhyw'n fwy cyfforddus.

Bydd y sach amniotig, cyhyrau ac abdomen y fenyw'n amddiffyn y babi rhag y symudiadau a grëir yn ystod cyfathrach rywiol, ond dylech fod yn ofalus beth bynnag. Bydd y plwg mwcws, neu fwcws y wain, yn sicrhau bod eich plentyn yn ddiogel rhag haint.

Os byddwch chi'n profi unrhyw symptomau anarferol yn ystod rhyw neu ar ôl rhyw, dylech siarad â'ch meddyg neu fydwraig cyn ceisio cael rhyw eto.

Pryd i osgoi rhyw

Mewn rhai achosion, efallai y bydd meddyg yn argymell i chi beidio â chael rhyw, yn enwedig os yw'r brych yn gorwedd dros wddf y groth (a elwir yn placenta previa), neu os ydych chi mewn perygl o waedu. Mae rhesymau eraill yn cynnwys:

  • os yw'r fenyw'n cael unrhyw redlif anarferol o'r wain
  • os oes gan y fenyw hanes o golli babanod neu esgor cynamserol
  • os yw ceg croth y fenyw wedi ymledu
  • os oes gan y fenyw boen yn ei habdomen
  • os yw'r fenyw'n cael poen wrth basio dŵr
  • os yw'r fenyw'n disgwyl mwy nag un baban
  • os yw'r fenyw erioed wedi gorfod cael triniaeth feddygol am faterion yn ymwneud â'r groth neu atgenhedlu

Heintiau a drosglwyddir trwy ryw

Ni ddylai menyw feichiog gael cyfathrach rywiol gydag unrhyw un os nad yw'n gwybod ei hanes rhywiol, gan y gallai fod yn cludo heintiau a drosglwyddir drwy ryw megis clamydia, herpes, HIV/AIDS neu gonorea. Gellir trosglwyddo heintiau o'r fath i'r fam ac i'r baban.

Additional links

Gwybod Faint i'w Yfed

Gallwch gael gwybod sawl uned o alcohol sydd yn eich hoff ddiod, sut i fwynhau yfed yn gyfrifol a mwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU