Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Teithio a chithau'n feichiog

Mae teithio ar y rhan fwyaf o fathau o drafnidiaeth yn gwbl ddiogel drwy gydol beichiogrwydd, ond dylech fod yn ymwybodol o rai rheoliadau penodol ar gyfer teithio mewn awyrennau. Os ydych chi'n bwriadu teithio dramor, dylech siarad â'ch bydwraig neu eich meddyg yn gyntaf.

Teithio mewn awyren

Mae'n ddiogel i fenywod sy'n feichiog heb gymhlethdodau deithio mewn awyren. Fodd bynnag, os ydych chi'n cael salwch bore drwg neu bod perygl i chi golli'r babi, efallai y bydd eich meddyg yn argymell na ddylech hedfan yn nhri mis cyntaf eich beichiogrwydd. Yn ystod dau fis olaf y beichiogrwydd, ni ddylech hedfan os oes gennych chi bwysau gwaed uchel neu os oes gennych risg uwch o esgor yn gynamserol.

Cyn i chi deithio

Cofiwch sicrhau eich bod yn gwybod rheolau'r cwmni awyrennau neu'r cwmni gwyliau am deithwyr beichiog cyn archebu. Bydd rhai cwmnïau awyrennau'n gadael i chi hedfan y tu hwnt i'r cyfnod a argymhellir, ond bydd nifer o gwmnïau awyrennau'n gofyn am lythyr gan eich bydwraig neu eich meddyg yn rhoi manylion am y dyddiad y mae disgwyl i chi roi genedigaeth.

Hedfan yn gyfforddus

Gan fod awyrennau'n gallu bod yn eithaf cyfyng i deithio ynddynt, mae'n bwysig gofyn i'r cwmni awyrennau am y dewisiadau sydd ar gael i wneud eich taith yn fwy cyfforddus. Gallai'r rhain gynnwys:

  • archebu sedd ychwanegol wrth eich ymyl fel bod gennych chi fwy o le
  • gofyn am sedd â mwy o le i'r coesau
  • gofyn am gael symud i sedd dosbarth cyntaf/clwb/busnes; bydd rhai o'r rhain yn cynnwys gwely
  • gofyn am gael sedd lle mae'n hawdd gadael y sedd i ymestyn - er enghraifft, yn agos at gefn yr awyren neu ar yr eil

Mae'n debygol y bydd rhai o'r dewisiadau hyn yn ychwanegu at gost eich taith, a bydd y pris yn amrywio gyda gwahanol gwmnïau awyrennau.

Yn ystod taith mewn awyren

Gallwch wneud nifer o bethau i sicrhau eich bod yn gyfforddus ac yn ddiogel. Mae merched beichiog mewn mwy o berygl o ddioddef Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT). Achosir DVT gan waed yn ceulo mewn gwythiennau, yn enwedig yn y coesau, a gall fod yn angheuol. I leihau'r risg, gallwch roi cynnig ar y canlynol:

  • gwisgo sanau DVT arbennig - gellir prynu'r rhain o fferyllfeydd a siopau meysydd awyr
  • gadael eich sedd bob rhyw awr i gerdded o gwmpas neu wneud ymarferion ymestyn syml
  • osgoi gwisgo dillad tynn
  • gwisgo esgidiau cyfforddus, neu ddim esgidiau o gwbl, gan y gallai eich traed chwyddo
  • yfed digonedd o ddŵr a sudd ffrwythau - osgowch fwyd a diod a fydd yn eich dadhydradu (e.e. te, coffi)

Teithio ar y ffordd

Mae teithio ar y ffordd mewn bws neu gar yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd, ond os yw'r daith yn hir, ac os na fyddwch yn symud am gyfnodau hir, gallech fod mewn perygl o DVT. Dilynwch yr un awgrymiadau ac a roddir uchod ar gyfer hedfan yn feichiog.

Teithio ar drên

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ferched beichiog yn teithio dramor ar drên, er enghraifft ar yr Eurostar neu drwy Dwnnel y Sianel.

Teithio mewn cwch

Mae gan nifer o gwmnïau fferïau ganllawiau tebyg i gwmnïau awyrennau, felly sicrhewch eich bod yn siarad â hwy cyn archebu. Mae digonedd o le ar fferïau i chi gerdded o gwmpas ac ymestyn, a gallwch ofyn am archebu seddau sy'n pwyso'n ôl neu gaban ar gyfer teithiau hirach.

Yswiriant teithio

Sicrhewch fod eich polisi yswiriant yn eich diogelu'n llwyr, nid yn unig ar gyfer y daith mewn awyren ond ar gyfer eich gwyliau i gyd. Bydd gan gwmnïau yswiriant reolau a rheoliadau tebyg i'r cwmnïau teithio. Ewch â'ch Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) gyda chi bob amser rhag ofn y bydd angen triniaeth feddygol mewn argyfwng arnoch dramor.

Additional links

Gwybod Faint i'w Yfed

Gallwch gael gwybod sawl uned o alcohol sydd yn eich hoff ddiod, sut i fwynhau yfed yn gyfrifol a mwy

Allweddumynediad llywodraeth y DU