Mae gwybod beth i'w fwyta a'i yfed, pa ychwanegiadau i'w cymryd a beth i'w osgoi yn mynd ymhell wrth ddiogelu eich iechyd chi a iechyd eich babi.
Os ydych yn feichiog neu'n bwriadu cael babi, argymhellir eich bod yn dechrau cymryd 400 microgram (mcg) o asid ffolig bob dydd, mor fuan â phosib. Dylech barhau i wneud hyn nes byddwch wedi bod yn feichiog am 12 wythnos. Dywedir bod y fitamin hwn yn lleihau'r risg o spina bifida.
Os oes gennych ddiabetes, epilepsi neu glefyd coeliag mae'n bosib y bydd angen i chi gael dogn uwch o asid ffolig. Bydd eich meddyg neu'ch bydwraig yn gallu eich cynghori.
Pan fyddwch yn feichiog, neu'n ceisio beichiogi, dylai eich deiet gynnwys digon o brotein, ffeibr, calsiwm, haearn a mineralau a fitaminau eraill. Gellir dod o hyd i'r rhain yn y bwydydd canlynol:
Peidiwch â bwyta pysgod olewog fwy na dwywaith yr wythnos, yn enwedig tiwna ffres, sy'n uchel mewn mercwri ac sy'n gallu niweidio system nerfol y babi.
Gall menywod beichiog ddioddef o ddiffyg haearn felly mae'n bwysig bwyta digon o fwydydd sy'n llawn haearn. Bydd cael digon o fitamin C drwy fwyta ffrwythau a llysiau ac yfed sudd yn cynorthwyo'ch corff i amsugno haearn. Os ydy'ch lefelau haearn yn isel, bydd eich meddyg neu'ch bydwraig yn eich cynghori i gymryd haearn atodol. Bydd y bwydydd canlynol yn eich helpu i gadw'ch lefelau haearn yn arferol:
Gall rhai bwydydd na fydd fel arfer yn gwneud niwed arwain at broblemau yn ystod beichiogrwydd. I fod yn siŵr, dylech osgoi'r canlynol:
Er bod iau/afu yn ffynhonnell dda o haearn, dylai menywod beichiog osgoi ei fwyta oherwydd ei fod yn uchel mewn Fitamin A.
Mae'n syniad da gwneud ymarfer corff ysgafn yn ystod eich beichiogrwydd gan fod rhoi genedigaeth yn waith corfforol a byddwch mewn gwell sefyllfa i ddelio â hynny os ydych wedi bod yn cadw'n heini. Bydd ymarfer corff hefyd yn gwella eich cylchrediad, sy'n dda i chi ac i'r babi.
Mae nofio'n ffordd dda o gadw'n heini yn ystod beichiogrwydd, ac mae hynny'n wir am gerdded hefyd. Byddai nofio am ddim ond deg munud yn eich pwll nofio lleol neu gerdded am 30 munud yn ddelfrydol.
Fodd bynnag, cymrwch ofal rhag ei gorwneud hi. Ni ddylai curiad eich calon byth fynd yn uwch na 140 curiad y funud, a dylech yfed digon o ddŵr er mwyn osgoi mynd yn ddadhydredig. Dylech hefyd osgoi gwneud ymarfer corff mewn tywydd poeth iawn, oherwydd nid oes gan eich babi ffordd o gael gwared ar wres diangen.
Os ydych chi'n dymuno gwneud ymarfer corff yn ystod eich beichiogrwydd, holwch eich meddyg yn gyntaf.
Dylech osgoi rhai anifeiliaid ac ambell gynnyrch sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid pan fyddwch yn feichiog.
Mae carthion cathod yn gallu cynnwys clefyd a allai niweidio eich babi, felly:
Dylech hefyd osgoi wyna, mamogiaid sy'n bwydo ac ŵyn newydd-anedig