Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ysmygu yn ystod beichiogrwydd

Os ydych chi'n ysmygu, mae'n bwysig eich bod yn ceisio rhoi'r gorau iddi cyn gynted ag y byddwch yn cael gwybod eich bod chi'n feichiog. Mae llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu, a byddwch chi a'ch babi'n gweld y gwahaniaeth yn syth.

Manteision rhoi'r gorau iddi

Bydd ysmygu pan fyddwch yn feichiog nid yn unig yn niweidio'ch iechyd chi, ond gall hefyd niweidio'ch babi. Mae wedi cael ei gysylltu ag amrywiaeth o broblemau iechyd gan gynnwys genedigaethau cynamserol, pwysau geni isel, marwolaeth yn y crud, colli babi a phroblemau anadlu/gwichian yn ystod chwe mis cyntaf bywyd y babi.

Os rhowch chi'r gorau i ysmygu yn ystod y cyfnod beichiogrwydd, fe gewch chi lai o salwch bore a llai o gymhlethdodau.

Os ydych chi'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu, ceisiwch annog y bobl o'ch cwmpas i wneud yr un fath. Mae mwg ail-law yn cynnwys nwyon gwenwynig, tar a miloedd o gemegau gwenwynig sy'n niweidiol i chi ac i iechyd eich babi. Isod, ceir dolen i 'Swyddogaeth bwysig partneriaid', sy'n darparu gwybodaeth am sut y gall partneriaid hefyd helpu trwy roi'r gorau i ysmygu.

Cefnogaeth

Dim ond chi all benderfynu rhoi'r gorau i ysmygu. Yn dilyn y cam hwnnw gallwch gael cymorth i ddal ati i beidio ag ysmygu.

Mae Llinell Gymorth GIG ar Ysmygu yn ystod Beichiogrwydd, 0800 169 9 169, yn wasanaeth cefnogi cyfrinachol. Fe fydd person wedi ei hyfforddi'n arbennig yn ateb eich galwad ac yn gwrando ar eich anghenion, yn awgrymu gwahanol ddulliau o roi'r gorau i ysmygu, ac yn gallu anfon pecyn gwybodaeth rhad ac am ddim atoch.

Mae Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu'r GIG ar gael yn eich ardal. Mae cymorth arbennig ar gael i famau beichiog a'u partneriaid sy'n ei chael yn anodd rhoi'r gorau iddi. Er mwyn dod o hyd i'ch gwasanaeth lleol, ffoniwch Linell Gymorth GIG ar Ysmygu yn ystod Beichiogrwydd ar 0800 169 9 169, neu ymwelwch â gwefan Givingupsmoking.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU