Mae digonedd o gyngor ar gael ynghylch alcohol a beichiogrwydd. Weithiau, gall y cynghorion wrth-ddweud ei gilydd, ac mae pob menyw (a beichiogrwydd) yn wahanol.
Y cyngor gorau yw osgoi yfed alcohol pan yr ydych yn feichiog neu’n ceisio beichiogi. Os ydych yn penderfynu yfed, er hynny, sicrhewch nad ydych yn yfed dim fwy nag un neu ddau o unedau, unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Os ydych yn cadw at hyn, barn y Llywodraeth ar y dystiolaeth yw mae'n o brin y byddwch yn rhoi niwed i'ch babi.
Os ydych yn ceisio beichiogi, mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol bod faint yr ydych yn ei yfed yn gallu gostwng eich lefelau ffrwythlondeb yn ogystal â'ch gallu i feichiogi. Gall yfed gormod, yn enwedig meddwi, arwain at golli'r plentyn yng nghyfnodau cynharaf beichiogrwydd. Y peth mwyaf diogel i'w wneud yw yfed llai o alcohol. Felly os ydych yn ceisio beichiogi, peidiwch ag yfed mwy nag un neu ddwy o unedau unwaith neu ddwy yr wythnos, a dylech osgoi meddwi.
Pan fydd menyw feichiog yn yfed alcohol, mae'r alcohol yn pasio drwy'r brych ac yn gallu effeithio ar ddatblygiad y baban. Mae hyn yn digwydd trwy gydol y cyfnod beichiogrwydd, nid yn ystod yr wythnosau cyntaf yn unig. Gall yfed yn ormodol arwain at bwysau isel ar enedigaeth a gall hefyd effeithio ar ddatblygiad corfforol a meddyliol y plentyn. Mae'r cyflwr hwn yn cael ei adnabod fel syndrom alcohol y ffetws (FAS).
Mae meddwi yn neilltuol o beryglus. Y cyngor yw osgoi meddwi a pheidio ag yfed mwy nag un neu ddwy o unedau unwaith neu ddwy yr wythnos. Yn y DU mae un uned yn cynnwys wyth gram o alcohol pur a chryfder a maint diod sy'n pennu faint o unedau sydd ynddo.
Bydd alcohol yn cael ei basio i'r baban fesul tipyn trwy gyfrwng llaeth o'r fron. Bydd y llaeth yn arogli'n wahanol i'r baban a gallai hyn effeithio ar y modd y mae'n bwydo, cysgu neu dreulio. Y cyngor gorau yw osgoi yfed ychydig cyn bwydo'r baban. Boed chi'n bwydo o'r fron neu beidio, mae'r meincnod dyddiol a argymhellir, sef rhwng dwy a thair uned o alcohol y dydd, yn ganllaw defnyddiol. Mae'r meincnod yn berthnasol boed chi'n yfed bob dydd, unwaith neu ddwy yr wythnos, neu o bryd i'w gilydd.