Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Archwiliadau rheolaidd yn ystod beichiogrwydd

Pan fyddwch yn darganfod eich bod yn feichiog, dylech wneud apwyntiad i weld eich meddyg yn syth. Cewch gynnig profion rheolaidd trwy gydol y cyfnod y byddwch yn feichiog. Mae pa mor aml y byddwch yn cael eich profi yn dibynnu ar nifer o bethau megis ai dyma'ch baban cyntaf neu a oes gennych anghenion iechyd arbenigol. Fodd bynnag, gallwch gysylltu â'ch bydwraig neu'ch meddyg os byddwch yn bryderus neu os bydd angen trafod rhywbeth arnoch.

Profion archwilio rheolaidd

Bydd yr archwiliadau, mwy na thebyg, yn cynnwys:

  • cymryd eich pwysau gwaed
  • eich pwyso
  • teimlo'ch stumog (er mwyn gweld beth yw maint a safle eich baban)
  • gwrando ar guriad calon eich baban
  • astudio'ch wrin am heintiau a phroblemau siwgr gwaed
  • edrych ar eich lles cyffredinol

Profion gwaed

Yn ystod beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion gwaed a fydd yn darparu gwybodaeth i'ch cynorthwyo i roi genedigaeth i faban iach. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau am y profion a gynigir i chi, beth fyddan nhw'n ei ddweud neu ddim yn ei ddweud wrthych a pha benderfyniadau pellach y gallech orfod eu cymryd yn dibynnu ar y canlyniadau. Trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych gyda'ch bydwraig neu feddyg a chymerwch eich amser i ystyried eich opsiynau.

Gallai profion gynnwys:

  • pennu beth yw eich grŵp gwaed
  • profi am HBV (mae HBV yn achosi hepatitis B)
  • profi am gyflyrau megis syffilis, anaemia neu nodwedd cryman-gell
  • profi am imiwnedd i rwbela (y frech Almaenaidd)
  • profi am HIV (am fwy o wybodaeth ewch i'r ddolen isod)
  • Syndrom Down

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU