Mae rwbela a HIV yn gallu cael eu trosglwyddo rhwng y fam a'r babi yn ystod beichiogrwydd, felly mae’n bwysig eich bod chi’n cael prawf os ydych chi’n ofni bod gennych chi naill ai rwbela neu HIV.
Gall rwbela (y frech Almaenig) wneud niwed difrifol i'ch baban os ydych yn ei chael o fewn y pedwar mis cyntaf o fod yn feichiog. Mae'r rhan fwyaf o blant wedi eu himiwneiddio rhag rwbela ond os ydych yn meddwl eich bod yn feichiog a bod gennych rwbela, neu'ch bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun gyda'r frech Almaenig, dywedwch wrth eich meddyg ar unwaith.
Os ydych yn gwybod eich bod yn HIV positif, gallwch wneud ambell beth er mwyn lleihau'r risg o basio HIV i'ch baban. Mae hyn yn cynnwys:
Gyda'r holl ymyriadau, gall cyfradd y trosglwyddiad o'r fam i'r plentyn fod bod mor isel â dau y cant. Heb ymyriadau, gall fod rhwng 25 a 40 y cant.
Os ydych yn meddwl fod gennych HIV, y peth gorau i'w wneud yw cael eich profi. Gellir cael profion HIV am ddim ac yn gwbl gyfrinachol gan un o'r gwasanaethau meddyginiaeth genhedlol-wrinol (GUM) neu'r clinigau iechyd rhyw. Mae sawl mudiad yn cynnig cyngor a chymorth yn yr amgylchiadau hyn. Mae cefnogaeth yn amrywio o gynnig cyfleoedd yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a gwirfoddoli i bobl sy'n byw gyda HIV, i gyngor, cefnogaeth a gwybodaeth am gyflogaeth a datblygiad personol.