Os ydych chi'n fam ac yn gyflogai, mae gennych hawl statudol i nifer sylfaenol o wythnosau o absenoldeb mamolaeth. Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn cynnig ei gynllun absenoldeb mamolaeth ei hun.
Ceir absenoldeb mamolaeth statudol am 52 wythnos. Gallech fod â'r hawl i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol am hyd at 39 wythnos o'r absenoldeb.
I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb mamolaeth, rhaid i chi fod yn 'gyflogai'. Os nad ydych yn sicr a ydych yn 'gyflogai' ai peidio, dilynwch y ddolen isod.
Byddwch yn cael help personol i gael gwybod beth allech chi fod yn gymwys i'w gael drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).
Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb mamolaeth a'r tâl y gallech fod yn gymwys ar ei gyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.
Mae'n bosib bod gan eich cyflogwr ei gynllun ei hun ac fe allai hwnnw fod yn fwy hael na'r cynllun statudol. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr staff i weld y manylion neu holwch eich cyflogwr. Chaiff eich cyflogwr ddim cynnig llai i chi na'r cynllun statudol.
Fel 'cyflogai' bydd gennych yr hawl i gael 26 wythnos o 'Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin' a 26 wythnos o 'Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol' - gan wneud cyfanswm o flwyddyn. Ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion hysbysu penodol, fe gewch gymryd y cyfnod hwn, dim ots ers faint rydych chi wedi bod gyda'ch cyflogwr, na faint o oriau rydych chi'n eu gweithio, na faint o gyflog gewch chi.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cydberthynas Lafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth i breswylwyr Gogledd Iwerddon. Fe allwch chi gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.