Os ydych chi'n mynd i fod yn dad, neu os byddwch chi ar fam yn gyfrifol am fagu'r plentyn, bydd gennych hawl i gael cyfnod o absenoldeb tadolaeth gyda thâl dim ond i chi fodloni rhai amodau.
Gallwch gael help personol i gael gwybod beth yr ydych yn gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).
Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb tadolaeth a'r tâl y gallwch fod yn gymwys ar ei gyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.
Nid yw absenoldeb tadolaeth yr un fath ag absenoldeb rhiant. Absenoldeb heb dâl yw absenoldeb rhiant y gall rhieni sy'n gweithio'i ddefnyddio i ofalu am blant dan bump oed.
I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb tadolaeth a thâl, rhaid i chi fod yn 'gyflogai'. Os mai 'gweithiwr' ydych chi, fyddwch chi ddim yn gymwys ar gyfer y cyfnod o absenoldeb ond fe allech fod yn gymwys i gael tâl. Os nad ydych chi'n siŵr ai 'gweithiwr' ynteu 'cyflogai' ydych chi, darllenwch yr erthygl isod.
Fe gewch gymryd y cyfnod o absenoldeb tadolaeth statudol os ydych chi'n bodloni'r holl amodau hyn:
I fod yn gymwys ar gyfer tâl, rhaid i chi hefyd:
Os ydych chi'n ennill llai na'r terfyn enillion isaf (£90 yr wythnos ar hyn o bryd), bydd gennych yr hawl i absenoldeb tadolaeth heb dâl os ydych chi'n bodloni amodau eraill, ac fe allech gael Cymhorthdal Incwm yn ystod eich cyfnod o absenoldeb tadolaeth.
Os nad ydych yn gyflogai, ond eich bod yn weithiwr asiantaeth, yn ddeilydd swydd neu'n is-gontractwr, ni fydd gennych hawl i gael absenoldeb tadolaeth fel arfer, ond efallai y byddwch yn gymwys i gael tâl os ydych chi'n bodloni'r meini prawf cymhwyso eraill.
Beth os na fyddwch chi'n gymwys?
Os na fyddwch chi'n gymwys i gael cyfnod o absenoldeb tadolaeth, mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn barod i roi rhywfaint o amser i chi o'r gwaith neu fe allech chi gymryd gwyliau gyda thâl.
Cyn belled â'ch bod yn bodloni rhai amodau, cewch gymryd naill ai un wythnos neu ddwy wythnos. Chewch chi ddim cymryd diwrnodau yma ac acw, ac os byddwch chi'n dewis cymryd y pythefnos, rhaid cymryd y ddwy wythnos gyda'i gilydd.
Cewch ddewis dechrau'r cyfnod o absenoldeb:
Gall eich absenoldeb ddechrau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos (ond nid cyn i'r babi gael ei eni), ond rhaid iddo orffen o fewn 56 diwrnod ar ôl geni'r babi, neu, os genir y babi cyn yr wythnos pan ddisgwylid iddo gael ei eni, o fewn 56 diwrnod i ddiwrnod cynta'r wythnos honno.
Os bydd eich partner yn feichiog gyda mwy nag un babi (gefeilliaid er enghraifft), dim ond un cyfnod o absenoldeb tadolaeth gewch chi.
Ar yr amod eich bod yn bodloni'r holl amodau eraill, byddwch chi'n dal i gael cymryd y cyfnod o absenoldeb tadolaeth os yw eich plentyn yn cael ei eni’n farw-anedig ar ôl 24 wythnos neu os yw’n cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod y beichiogrwydd.
Os ydych chi'n ennill £90 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd (cyn treth), telir y Tâl Mabwysiadu Statudol, sef £117.18 neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os yw hynny'n llai, am un neu ddwy wythnos yn olynol.
Mae gan rai cyflogwyr eu trefniadau eu hunain ar gyfer absenoldeb tadolaeth - edrychwch ar eich contract cyflogaeth. Bydd dal gennych chi'r hawl i ddewis y trefniadau statudol os mai dyna sydd orau gennych.
Mae'r hawl i absenoldeb tadolaeth ar ben eich lwfans gwyliau arferol.
Nid oes gan dadau hawl gyfreithiol i gael amser o’r gwaith er mwyn mynd gyda’u partner i apwyntiadau cynenedigol, gan nad yw’r hawl i gael amser o’r gwaith gyda thâl ond yn berthnasol i weithwyr beichiog. Fodd bynnag, mae nifer o gwmnïau’n sylweddoli pwysigrwydd y cyfnod hwn ac yn gadael i’w gweithwyr gymryd amser o’r gwaith gyda thâl, neu wneud iawn am yr amser yn ddiweddarach.
Os bydd eich bos yn gwrthod, mynnwch sgwrs gyda'r sawl sydd uwch eu pen, neu'r adran Adnoddau Dynol. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.
Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
Os byddwch chi'n dal i fod yn anhapus, bydd gennych yr hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd