Mae absenoldeb rhiant yn rhoi hawl i rieni cymwys gymryd amser di-dâl o'r gwaith i ofalu am eich plentyn neu wneud trefniadau ar gyfer eu lles. Gall eich helpu i dreulio mwy o amser gyda'ch plentyn a chael gwell cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch ymrwymiadau teuluol
Mae gennych yr hawl i gael cyfnod o absenoldeb rhiant:
ac os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:
Mae gan y naill riant neu'r llall yr hawl i gael absenoldeb rhiant. Os ydych wedi gwahanu ac nad ydych yn byw gyda'r plant, bydd gennych yr hawl i gael cyfnod o absenoldeb rhiant os ydych chi'n cadw cyfrifoldeb rhiant dros y plant.
Nid oes gan rieni maeth yr hawl i gyfnod o absenoldeb rhiant.
Os na fyddwch chi'n gymwys i gael cyfnod o absenoldeb rhiant ond bod angen amser o'r gwaith arnoch i ofalu am eich plentyn, fe allech chi wneud y canlynol
Os oes argyfwng go iawn, a bod angen i chi gael amser o'r gwaith ar fyr rybudd, mae'n bosibl y bydd eich cyflogwr yn fodlon i chi gael cyfnod o 'absenoldeb oherwydd argyfwng' neu efallai y bydd gennych yr hawl i gael amser o'r gwaith i drefnu gofal.
Cewch gymryd hyd at 13 wythnos o absenoldeb rhiant ar gyfer pob un o'ch plant nes byddant yn cael eu pen-blwydd yn bump oed.
Os yw'ch plentyn wedi'i fabwysiadu, bydd gennych hawl i 13 wythnos o absenoldeb rhiant nes bydd union bum mlynedd wedi mynd heibio ers i'r plentyn gael ei leoli gyda chi neu tan eu pen-blwydd yn ddeunaw, pa un bynnag sy'n dod gyntaf.
Os yw eich plentyn yn anabl (hynny yw, yn cael lwfans byw i'r anabl) bydd gennych hawl i hyd at 18 wythnos o absenoldeb rhiant hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed.
Mae absenoldeb rhiant yn hawl unigol ac ni chewch drosglwyddo'r absenoldeb rhwng rhieni, er enghraifft, ni chaiff y tad benderfynu cymryd 10 wythnos yn unig a bod y fam yn cymryd 16 wythnos.
Pwrpas absenoldeb rhiant yw gofalu am eich plentyn. Mae hyn yn golygu edrych ar ôl lles y plentyn a gallai gynnwys gwneud trefniadau er ei fudd.
Nid yw gofalu am blentyn o anghenraid yn golygu bod gyda'r plentyn 24 awr y dydd. Efallai y byddwch am gymryd absenoldeb rhiant dim ond i'ch galluogi i dreulio mwy o amser gyda'ch plentyn ifanc. Dyma enghreifftiau o sut y gellid defnyddio absenoldeb rhiant:
Cewch gymryd absenoldeb rhiant yn syth ar ôl eich absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, cyn belled â'ch bod yn rhoi'r rhybudd cywir.
Lle bynnag y bo modd, dylai cyflogwyr a chyflogeion wneud eu trefniadau eu hunain o ran sut y bydd y drefn absenoldeb rhiant yn gweithio yn y gweithle, ond os nad oes modd gwneud hyn, daw'r "cynllun wrth gefn" i rym fel mater o drefn. Ni chaiff telerau cytundeb eich gweithle fod yn llai ffafriol na'r cynllun wrth gefn.
Dylech bob amser edrych ar eich contract cyflogaeth neu ar lawlyfrau staff am gynlluniau absenoldeb rhiant eich cyflogwyr. Gallai'r rhain gynnig trefniadau arbennig sy'n well na'r cynllun wrth gefn (er enghraifft, efallai y bydd modd i chi gymryd absenoldeb mamolaeth hyd yn oed os ydych wedi gweithio yno am lai na blwyddyn neu os chi yw nain neu daid/mam-gu neu dad-cu, llys-riant neu riant maeth hirdymor y plentyn).
Rhaid i chi gymryd eich absenoldeb mewn blociau o wythnosau llawn, felly os byddwch am fod yn absennol o'r gwaith am ddiwrnodau unigol - er enghraifft i fynd â'ch plentyn at y deintydd - dylech ofyn i'ch cyflogwr a gewch weithio oriau hyblyg neu ddefnyddio'ch lwfans gwyliau.
Mae wythnos yn seiliedig ar eich patrwm gweithio arferol. Felly os mai dim ond ar ddydd Llun a dydd Mawrth y byddwch yn gweithio, byddai wythnos yn ddau ddiwrnod, neu os ydych chi'n gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, byddai wythnos yn bum niwrnod.
Os oes gan eich plentyn anabledd, fe gewch fod yn absennol fesul diwrnod yn hytrach na fesul wythnos, ac felly, fe allech ddefnyddio'ch cyfnodau o absenoldeb rhiant ar gyfer apwyntiadau rheolaidd yn yr ysbyty.
Chewch chi ddim bod yn absennol am fwy na phedair wythnos ar gyfer unrhyw un plentyn mewn blwyddyn.
Ar gyfer y dibenion hyn, mae blwyddyn yn dechrau pan fyddwch yn dod yn gymwys ar gyfer absenoldeb rhiant (naill ai pan fydd y plentyn yn cael ei enw, neu pan fyddwch wedi gweithio i'ch cyflogwr yn ddi-dor am flwyddyn, pa un bynnag sy'n dod ddiwethaf).