Gallwch gael gwybod mwy am eich hawliau yn ystod seibiant mabwysiadu a beth fydd yn digwydd i'ch swydd pan ddewch yn ôl. Mae'r hawliau hyn yr un fath os ydych chi'n mabwysiadu o'r DU neu o dramor.
Pan fyddwch chi ar seibiant mabwysiadu cyffredin, byddwch yn cadw eich hawliau a'ch buddiannau cyflogaeth arferol (heblaw eich cyflog). Gallai hyn gynnwys unrhyw fynediad at gar cwmni neu ffôn symudol sydd gennych fel rhan o'ch contract. Os cymerwch seibiant mabwysiadu ychwanegol, gellir gohirio rhai hawliau a buddiannau cytundebol (ee car cwmni), er y bydd eich hawliau statudol yn parhau.
Fodd bynnag, os disgwylir i'ch plentyn gael ei leoli gyda chi i'w fabwysiadu ar 5 Hydref 2008 neu wedi hynny, byddwch yn cadw eich hawliau a'ch buddiannau cyflogaeth arferol (heblaw eich cyflog) drwy gydol eich seibiant mabwysiadu.
Os yw eich cyflogwr yn cyfrannu at gynllun pensiwn galwedigaethol, rhaid iddo barhau i wneud ei gyfraniadau arferol am yr holl gyfnod y byddwch ar seibiant mabwysiadu cyffredin a seibiant mabwysiadu ychwanegol, neu unrhyw bryd y byddwch yn derbyn unrhyw Dâl Mabwysiadu Statudol neu dâl mabwysiadu cytundebol. Os ydych chi'n arfer gwneud cyfraniadau at eich pensiwn, dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar faint o dâl mabwysiadu rydych chi'n ei gael.
Byddwch yn dal i gronni eich holl hawliadau am wyliau â thâl pan fyddwch chi ar seibiant mabwysiadu cyffredin. Ond, os nad yw eich contract yn nodi'n wahanol, dim ond yr isafswm statudol (4.8 wythnos neu 24 diwrnod i'r rheini sy'n gweithio llawn amser) o hawliad gwyliau y byddwch yn ei gronni yn ystod seibiant mabwysiadu ychwanegol. Fodd bynnag, os disgwylir i'ch plentyn gael ei leoli gyda chi i'w fabwysiadu ar 5 Hydref 2008 neu wedi hynny, byddwch yn cronni eich holl hawliadau am wyliau â thâl drwy gydol eich seibiant mabwysiadu.
Gallwch ychwanegu gwyliau at ddechrau neu ddiwedd eich seibiant. Efallai na fyddwch yn gallu cario ymlaen hawliad gwyliau heb ei gymryd os aiff eich seibiant mabwysiadu dros ddwy flwyddyn wyliau, felly yn aml bydd yn well ei gymryd ar ddechrau eich seibiant.
Yn ystod eich seibiant, bydd yn aml o gymorth i gadw mew cysylltiad â'ch cyflogwr, ac mae gan eich cyflogwr hawl i gadw mewn cysylltiad â chi, o fewn rheswm, yn ystod eich seibiant mabwysiadu. Gallai hyn fod i drafod pethau megis trefniadau ar gyfer dychwelyd i'r gwaith, neu i roi gwybod am unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y gweithle tra'r ydych i ffwrdd.
Mae gennych hawl hefyd i wneud hyd at ddeg diwrnod o waith yn ystod eich seibiant mabwysiadu heb golli tâl mabwysiadu na diweddu eich seibiant.
Rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno eich bod yn cael gweithio ar y diwrnodau 'cadw mewn cysylltiad' hyn. Er eu bod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer pethau megis hyfforddiant neu ddigwyddiadau tîm, gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw fath o waith a dylent ei gwneud yn haws i chi ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich seibiant. Bydd angen i chi gytuno â'ch cyflogwr pa waith i'w wneud a faint o dâl a gewch.
Ar ôl absenoldeb mabwysiadu arferol, mae gennych hawl i ddychwelyd i'r un swydd. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan ddewch yn ôl ar ôl seibiant mabwysiadu, oni bai bod eich cyflogwr yn dangos nad yw'n rhesymol ymarferol iddo roi eich swydd wreiddiol yn ôl i chi (er enghraifft, am nad yw'r swydd yn bodoli mwyach). Os bydd hynny'n digwydd, rhaid cynnig gwaith arall i chi â thelerau ac amodau fel pe na baech wedi bod yn absennol.
Dylai eich cyflogwr gymryd yn ganiataol eich bod yn cymryd 52 wythnos lawn o seibiant, oni bai eich bod yn dweud fel arall wrtho. Os dymunwch newid y dyddiad y byddwch yn dychwelyd i'r gwaith, rhaid i chi roi o leiaf wyth wythnos o rybudd. Gall eich cyflogwr fynnu nad ydych yn dychwelyd nes diwedd yr wyth wythnos.
Os penderfynwch beidio â dychwelyd i'r gwaith o gwbl, rhaid i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr yn y ffordd arferol.
Os na allwch ddychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd eich seibiant mabwysiadu oherwydd salwch, rhowch wybod i'ch cyflogwr yn y ffordd arferol.
Mae'n anghyfreithlon i chi gael eich diswyddo yn ystod seibiant mabwysiadu neu ar ddiwedd y seibiant, neu ar ôl i chi ailddechrau gweithio, ar sail y seibiant mabwysiadu hwnnw neu am i chi fanteisio ar unrhyw un o'ch hawliau statudol yn ystod eich seibiant mabwysiadu.
Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cymodi a Chymrodeddu (Acas) yn cynnig cyngor diduedd, cyfrinachol a di-dâl am unrhyw faterion hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00am a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae'r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor diduedd, cyfrinachol a di-dâl am faterion hawliau cyflogaeth i breswylwyr Gogledd Iwerddon.
Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) leol roi cyngor diduedd a di-dâl. Gallwch ganfod eich swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.