Os ydych yn byw ym Mhrydain ac yn mabwysiadu plentyn o dramor gallech fod â hawl statudol i gymryd hyd at 52 o wythnosau o absenoldeb mabwysiadu a chael tâl mabwysiadu statudol ar gyfer rhan o'r cyfnod hwnnw. Efallai y gall eich partner gymryd absenoldeb tadolaeth a thâl hefyd.
Os byddwch chi’n mabwysiadu plentyn o dramor, mae yna wahaniaethau yn y meini prawf cymhwysol a’r dyddiad pan allwch chi ddechrau eich cyfnod o absenoldeb mabwysiadu, ond mae eich hawliau i gael absenoldeb a thâl yr un fath â phe baech yn mabwysiadu plentyn o fewn y DU.
I fod yn gymwys i gael absenoldeb mabwysiadu statudol mae'n ofynnol:
I fod yn gymwys i gael tâl mabwysiadu statudol mae'n rhaid i chi hefyd ennill mwy na'r terfyn enillion isaf ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol (sy'n £90 yr wythnos ar hyn o bryd).
Dylech roi gwybod i’ch cyflogwr eich bod yn bwriadu cymryd absenoldeb a thâl mabwysiadu statudol o fewn saith niwrnod i dderbyn yr hysbysiad mabwysiadu swyddogol. Gall hyn fod un ai pan fyddwch yn derbyn hysbysiad bod yr awdurdod canolog yn barod i gyhoeddi tystysgrif, neu pan fydd y dystysgrif wedi cael ei chyhoeddi.
Os byddwch chi’n mabwysiadu perthynas o dramor, gallwch chi hefyd fod yn gymwys i gael absenoldeb a thâl mabwysiadu, os ydych chi wedi cael eich asesu a'ch cymeradwyo fel rhiant addas i fabwysiadu.
Efallai y byddwch yn dewis cychwyn eich absenoldeb a thâl o'r dyddiad y bydd y plentyn yr ydych am ei fabwysiadu yn dod i mewn i'r wlad neu o ddyddiad y cytunwyd arno ymlaen llaw hyd at 28 diwrnod wedi hynny.
Dylech ddweud wrth eich cyflogwr:
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.