Mae'r gyfraith yn rhoi gwarchodaeth arbennig i ferched beichiog yn y gwaith. Mae ganddynt hawl i gael amser o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol, absenoldeb mamolaeth statudol, ac efallai y cânt dâl mamolaeth neu lwfans mamolaeth. Cânt hefyd eu gwarchod rhag triniaeth annheg.
Mae gan gyflogeion beichiog bedair prif hawl:
Mae gan gyflogwyr hefyd ddyletswyddau penodol i sicrhau iechyd a diogelwch eu cyflogeion beichiog.
Gallwch gael help personol i gael gwybod beth rydych yn gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).
Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb mamolaeth a'r tâl y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch absenoldeb.
Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog o leiaf 15 wythnos cyn dechrau'r wythnos pryd y disgwylir i'ch babi gyrraedd. Os nad oes modd gwneud hyn, er enghraifft, am nad oeddech chi'n sylweddoli eich bod yn disgwyl, dywedwch wrth eich cyflogwr cyn gynted ag y bo modd. Dylech hefyd ddweud wrtho pryd yr hoffech ddechrau eich absenoldeb mamolaeth a chael Tâl Mamolaeth Statudol.
Ond mae'n syniad da dweud wrth eich cyflogwr yn fuan, oherwydd bydd yn gallu cynllunio o gwmpas eich absenoldeb mamolaeth a chyflawni'i ddyletswyddau cyfreithiol tuag atoch chi. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes unrhyw faterion iechyd a diogelwch yn codi. Allwch chi ddim cymryd amser o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau cynenedigol tan i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog.
Mae gan bob cyflogai beichiog, ni waeth ers pryd y maent wedi bod yn eu swyddi, hawl i amser rhesymol o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol. Rhaid i chi dderbyn tâl yn ôl eich cyfradd cyflog arferol am unrhyw amser o'r gwaith. Mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr wrthod rhoi amser rhesymol i chi o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol neu wrthod talu i chi ar eich cyfradd cyflog arferol.
Gall eich cyflogwr ofyn i chi am dystiolaeth o apwyntiadau cynenedigol, o’r ail apwyntiad ymlaen. Ar gais eich cyflogwr, dylech ddangos tystysgrif feddygol iddo sy’n dangos eich bod yn feichiog, a cherdyn apwyntiad neu fath arall o dystiolaeth sy’n dangos bod gennych apwyntiad.
Gall gofal cynenedigol gynnwys dosbarthiadau ymlacio a magu babis yn ogystal ag archwiliadau meddygol, os caiff y rhain eu hargymell gan eich meddyg. Os oes modd, ceisiwch osgoi cymryd amser o'r gwaith pan allwch, o fewn rheswm, drefnu dosbarthiadau neu archwiliadau y tu allan i oriau gwaith.
Nid oes gan dadau hawl gyfreithiol i gael amser o’r gwaith er mwyn mynd gyda’u partner i apwyntiadau cynenedigol, gan nad yw’r hawl i gael amser o’r gwaith gyda thâl ond yn berthnasol i weithwyr beichiog. Fodd bynnag, mae nifer o gwmnïau’n sylweddoli pwysigrwydd y cyfnod hwn ac yn gadael i’w gweithwyr gymryd amser o’r gwaith gyda thâl, neu wneud iawn am yr amser yn ddiweddarach.
Os yw cyflogwyr yn trin menyw mewn modd llai ffafriol oherwydd ei bod yn cael triniaeth IVF neu’n bwriadu beichiogi, yna mae hynny yn wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw. Dim ond ar ôl i’r embryo gael ei ffrwythloni a'i fewnosod y mae gennych hawl i gael amser o'r gwaith gyda thâl ar gyfer gofal cynenedigol.
Gall rhai peryglon yn y gweithle gael effaith ar feichiogrwydd yn fuan iawn, neu hyd yn oed cyn cenhedlu, felly rhaid i gyflogwyr ystyried iechyd unrhyw ferched sydd mewn oed tebygol i gael plant, nid dim ond aros hyd nes y dywedwch wrthynt eich bod yn feichiog. Rhaid i’ch cyflogwr, fel rhan o’u hasesiad risg arferol, gysidro a oes unrhyw fath o waith yn debygol o greu risg penodol i ferched sydd mewn oed tebygol i gael plant. Dylech ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog cyn gynted ag sy’n bosib er mwyn iddynt allu nodi a oes angen unrhyw weithredu pellach.
Pan ddywedwch wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog, dylai'ch cyflogwr adolygu eu hasesiad risg ar gyfer eich gwaith penodol chi, a nodi unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol er mwyn eich diogelu chi ac iechyd eich babi yn y groth. Dylai'ch cyflogwr eich cynnwys chi yn y broses a dal i adolygu'r asesiad wrth i'ch beichiogrwydd fynd rhagddo, rhag ofn bod angen ei addasu mewn unrhyw ffordd.
Gallai'r risgiau hyn gael eu hachosi gan y canlynol:
Rhaid i'ch cyflogwr wedyn naill ai gael gwared ar y risg neu eich symud chi fel nad ydych yn agored i'r risg (er enghraifft, drwy gynnig gwaith arall addas i chi). Os nad yw'r naill na'r llall yn bosib, dylai eich cyflogwr eich atal o'r gwaith gyda chyflog llawn.
Os ydych yn meddwl eich bod yn agored i risg, ac nad yw'ch cyflogwr yn cytuno, dylech siarad yn gyntaf â'ch cynrychiolydd iechyd a diogelwch neu swyddog undeb llafur. Gallwch hefyd fynd yn syth at eich cyflogwr i esbonio'ch pryderon. Os ydy'ch cyflogwr yn dal i wrthod gweithredu, dylech siarad â'ch meddyg neu ffonio llinell gymorth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os ydych yn absennol o'r gwaith gyda salwch oherwydd beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn dyddiad geni tebygol y babi, bydd eich absenoldeb mamolaeth a'ch tâl mamolaeth statudol (gan eich cyflogwr) neu'ch lwfans mamolaeth (gan y Ganolfan Byd Gwaith) yn dechrau'n awtomatig, ni waeth beth a benderfynwyd yn flaenorol gyda'ch cyflogwr.
Hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â chymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol, mae'n rhaid i chi gymryd pythefnos ar ôl i'r babi gyrraedd, neu bedair wythnos os ydych yn gweithio mewn ffatri. Gelwir hyn yn 'absenoldeb mamolaeth gorfodol'.
Os yw cyflogwyr yn trin merched yn llai ffafriol oherwydd eu beichiogrwydd neu oherwydd iddynt gymryd absenoldeb mamolaeth, yna mae hynny yn wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw. Mae triniaeth o'r fath yn cynnwys pethau fel:
Ni chaiff eich cyflogwr newid telerau ac amodau eich gwaith yn ystod eich beichiogrwydd heb eich cytundeb chi. Os gwna, bydd yn torri'r contract.
Os gwedir eich hawliau i chi, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr i ddechrau. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.
Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
Os byddwch chi'n dal yn anhapus, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd