Os ydych chi'n gymwys i gael absenoldeb rhiant mae rhai camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd wrth wneud cais, gan gynnwys penderfynu am faint o amser yr ydych yn gofyn. Gallai eich cyflogwr ohirio eich cais, ond dim ond ar seiliau penodol iawn.
Rhaid i chi roi o leiaf 21 diwrnod o rybudd os oes arnoch eisiau cymryd absenoldeb rhiant. Os ydych chi'n dymuno cymryd absenoldeb rhiant yn syth ar ôl yr enedigaeth neu ar ôl mabwysiadu eich plentyn, dylech roi 21 diwrnod o rybudd cyn dechrau'r wythnos y disgwylir i'r babi gael ei eni neu y disgwylir i'r plentyn gael ei leoli gyda chi. Mewn achosion lle na fydd hyn yn bosibl, (er enghraifft, os caiff eich babi ei eni'n fuan, neu lle rhoddir llai na 21 diwrnod o rybudd bod y plentyn yr ydych am ei fabwysiadu yn mynd i gael ei leoli gyda chi) dylech roi gwybod i'ch cyflogwr mor fuan ag y bo modd.
Cyn belled â'ch bod wedi rhoi'r rhybudd cywir, gall eich absenoldeb rhiant ddechrau ar y diwrnod y caiff eich plentyn ei eni neu ei leoli, ni waeth os bydd hynny'n gynt neu'n ddiweddarach na'r dyddiad a roddasoch i'ch cyflogwr.
I helpu eich cyflogwr, mae'n syniad da rhoi eich rhybudd ar bapur. Cyn belled â'ch bod yn gymwys i gael absenoldeb mamolaeth ac yn rhoi'r rhybudd cywir i'ch cyflogwr gallwch gymryd absenoldeb rhiant unrhyw adeg.
Gallai eich cyflogwr ofyn am dystiolaeth i ddangos bod gennych hawl i absenoldeb rhiant - gallai hyn gynnwys:
Oni bai eich bod am fod yn absennol ar unwaith ar ôl geni neu fabwysiadu plentyn, gall eich cyflogwr ohirio'ch absenoldeb am hyd at chwe mis os yw'n teimlo y byddai'n tarfu ar y busnes. Byddai'n rhesymol i'ch cyflogwr ohirio eich absenoldeb:
Dylai eich cyflogwr drafod hyn gyda chi a chadarnhau'r trefniadau gohirio yn ysgrifenedig ddim hwyrach na saith niwrnod ar ôl i chi wneud cais am yr absenoldeb. Dylai eich cyflogwr nodi'r rheswm dros ohirio ynghyd â dyddiadau newydd eich absenoldeb rhiant, ar ôl cytuno arnynt gyda chi. Dylai hyd yr absenoldeb a gewch fod yr un faint â'r absenoldeb y gwnaethoch gais amdano.
Os bydd y gohirio'n mynd y tu hwnt i ddiwedd cyfnod eich hawl, bydd dal yn bosib i chi gymryd yr absenoldeb.
Os byddwch chi'n dechrau swydd newydd, fe gewch drosglwyddo unrhyw gyfnod o absenoldeb rhiant nad ydych wedi'i ddefnyddio. Chewch chi ddim manteisio ar hyn nes i chi fod gyda'ch cyflogwr am flwyddyn.
Mae absenoldeb rhiant statudol yn ddi-dâl, ond os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosib y cewch chi Gymhorthdal Incwm.
Os byddwch chi'n cael bonws fel rhan o'ch contract a'ch bod i fod i gael bonws yn ystod eich absenoldeb rhiant dylech edrych ar delerau ac amodau'r cynllun bonws ac, os oes angen, ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol ynghylch a oes gennych hawl i'r bonws ai peidio. Fel rheol gyffredinol:
Os oes gennych hawl i gyfnod o absenoldeb rhiant ond bod eich cyflogwr yn gwrthod eich cais, siaradwch â'ch cyflogwr neu ag adran adnoddau dynol y cwmni am y rhesymau dros hynny. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr. Os byddwch chi'n dal yn anhapus, bydd gennych hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.
Yn ystod absenoldeb rhiant bydd eich contract yn parhau oni fyddwch chi neu'ch cyflogwr yn rhoi terfyn arno. Mae gennych hawl i'ch holl fuddion cyflogaeth statudol, ond gellir gohirio rhai hawliau a buddion sy'n rhan o'ch contract. Er enghraifft, byddwch yn dal i gronni eich lwfans gwyliau statudol, ond ni fydd gennych hawl i gronni unrhyw hawl gwyliau ychwanegol fel rhan o'ch contract oni fyddwch chi wedi cytuno ar hyn gyda'ch cyflogwr.
Ni fydd absenoldeb rhiant yn effeithio ar eich hawliau pensiwn na'ch hawliau statws uwch, a phan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb rhiant, dylai eich hawliau fod yr un fath ag y byddent wedi bod pe na baech wedi bod yn absennol.
Os ydych chi ar gyfnod o absenoldeb rhiant dylech gael eich trin yn yr un ffordd ag unrhyw gyflogai arall os bydd sefyllfa dileu swyddi'n codi. Felly, dylid ymgynghori â chi am y peth, a dylid hefyd roi gwybod i chi am y posibilrwydd y bydd swyddi'n cael eu dileu a'ch ystyried ar gyfer unrhyw swydd arall.
Os bydd swyddi'n cael eu dileu, ni chaiff eich cyflogwr eich diswyddo am eich bod yn cymryd, wedi gofyn am gael cymryd, neu wedi cymryd absenoldeb rhiant.
Cyn belled na fydd yr absenoldeb yn para mwy na phedair wythnos byddwch yn gallu mynd yn ôl i'r un swydd. Dylech hefyd elwa o unrhyw welliannau o ran telerau ac amodau cyflogaeth, er enghraifft, os cafwyd codiad cyflog cyffredinol.
Os bydd eich absenoldeb yn hwy na phedair wythnos mae gennych hawl i ddychwelyd i'r un swydd, neu os nad yw hynny'n bosibl, i swydd debyg sydd â'r un statws a thelerau ac amodau â'ch hen swydd, neu well. Chaiff eich cyflogwr mo'ch trin yn annheg na'ch diswyddo oherwydd eich bod yn dewis cymryd cyfnod o absenoldeb rhiant neu'n gofyn am gael gwneud hynny.