Cael gwybod rhagor o wybodaeth am eich hawliau a chyfrifoldebau absenoldeb tadolaeth, gan gynnwys sut i hawlio eich absenoldeb a’ch tâl tadolaeth, sut y telir eich tâl tadolaeth a beth i’w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau.
I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb tadolaeth, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ar bapur o leiaf 15 wythnos cyn dechrau’r wythnos pryd y disgwylir i'r babi gyrraedd, neu o fewn 7 diwrnod i'r adeg pan gewch wybod gan yr asiantaeth fabwysiadu eich bod wedi cael eich paru â phlentyn. Mae angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr:
Rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i'ch cyflogwr o’r dyddiad y dymunwch i'ch Tâl Tadolaeth Statudol ddechrau. Ffordd syml o roi rhybudd yw llenwi 'hunan-dystysgrif'. Gallwch lwytho Ffurflen SC3 'Dod yn rhiant', oddi ar y we, ac mae honno yr un fath â hunan-dystysgrif.
Cewch newid dyddiad dechrau'r cyfnod o absenoldeb a’r tâl, ar yr amod eich bod yn rhoi 28 diwrnod o rybudd. Dylech roi gwybod ar bapur i'ch cyflogwr ynghylch dyddiad y geni neu ddyddiad y mabwysiadu, os yw'ch cyflogwr yn gofyn am hynny. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chdi roi unrhyw dystiolaeth feddygol o’r beichiogrwydd na'r geni i'ch cyflogwr er mwyn hawlio absenoldeb neu dâl tadolaeth statudol.
Byddwch yn talu treth ac Yswiriant Gwladol ar Dâl Tadolaeth Statudol yn yr un modd ag yr oeddech gyda'ch cyflog arferol. Bydd eich cyflogwr yn adhawlio'r rhan fwyaf o'r Tâl Tadolaeth Statudol o'u cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Tâl Tadolaeth Statudol, rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol fel cyflogai.
Os oes gennych fwy nag un swydd, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Tâl Tadolaeth Statudol gan bob cyflogwr.
Os cewch eich arestio neu'ch anfon i garchar yn ystod eich cyfnod o dâl tadolaeth, ni fydd rhaid i’ch cyflogwr dalu Tâl Tadolaeth Statudol i chi mwyach.
Ni all eich cyflogwr dalu tâl tadolaeth yn ystod unrhyw wythnos pan fyddwch yn gweithio neu pan fyddwch yn derbyn tâl salwch statudol. Os byddwch chi’n teimlo’n wael cyn cymryd absenoldeb tadolaeth, dylech ohirio'ch absenoldeb.
Os daw’ch contract i ben ar ôl i’ch plentyn gael ei eni, byddwch yn dal i allu cael Tâl Tadolaeth Statudol oni bai eich bod yn dechrau gweithio i gyflogwr arall.
Os na allwch chi roi'r rhybudd i'ch cyflogwr mewn digon o bryd am reswm dilys (ee os bydd y babi'n cyrraedd yn fuan neu os nad yw’r asiantaeth fabwysiadu’n rhoi digon o rybudd), dylech ddal i roi cymaint o rybudd ag y bo modd. Efallai y gallwch ddal i dderbyn tâl ac absenoldeb os byddwch chi’n bodloni’r amodau eraill, neu os byddech chi wedi eu bodloni pe na bai’ch babi wedi cael ei eni'n fuan. Os nad oes rheswm dilys (ee eich bod wedi anghofio) byddwch chi'n colli'ch hawl.
Os cewch chi drafferth i gael yr hyn y mae gennych hawl iddo, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwr yn gyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.
Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
Os ydych chi'n dal yn anhapus, bydd gennych yr hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.