Byddwch chi'n dal i Ar wahân i'ch cyflog, bydd holl fuddiannau arferol eich cyflogaeth yn aros yr un fath yn ystod eich cyfnod o absenoldeb tadolaeth. Byddwch yn cael mynd yn ôl i'r un swydd ac ni ddylai'ch cyflogwr eich trin yn annheg na'ch diswyddo oherwydd eich bod yn dewis cymryd absenoldeb tadolaeth neu'n gofyn am gael gwneud hynny.
Byddwch chi'n dal i hel eich hawl i wyliau gyda thâl yn ystod absenoldeb tadolaeth. Chewch chi ddim cymryd gwyliau blynyddol yn ystod absenoldeb tadolaeth, ond efallai y gallwch ymestyn eich amser i ffwrdd drwy gymryd cyfnod o wyliau blynyddol yn union cyn neu ar ôl absenoldeb tadolaeth.
Os yw’ch cyflogwr yn cyfrannu tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol, yna rhaid iddynt barhau i wneud eu cyfraniadau arferol drwy gydol y cyfnod pan fyddwch ar absenoldeb tadolaeth gyda thâl.
Os ydych chi fel arfer yn cyfrannu tuag at eich pensiwn dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar swm y tâl tadolaeth yr ydych yn ei dderbyn.
Ar ddiwedd eich absenoldeb tadolaeth, mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd ag o’r blaen ar yr un telerau ag amodau a phe na baech wedi bod yn absennol, heblaw bod sefyllfa o ddiswyddo wedi codi.
Dylai gweithiwr sydd ar absenoldeb tadolaeth gael ei drin yn yr un modd ag unrhyw weithiwr arall mewn sefyllfa o ddiswyddo, gan gynnwys ymgynghori â chi ynghylch y diswyddo a chael eich ystyried ar gyfer swyddi eraill.
Mae gennych hawl hefyd i elwa o unrhyw welliannau cyffredinol i’ch cyfradd gyflog neu delerau ac amodau eraill a gyflwynwyd tra roeddech yn absennol.
Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich diswyddo neu’ch trin yn annheg o ganlyniad i gymryd absenoldeb tadolaeth neu geisio cymryd absenoldeb tadolaeth.
Os nad ydych chi’n dymuno dychwelyd i’r gwaith, dylech roi rhybudd yn unol â’ch cytundeb cyflogaeth. Nid oes rhaid i chi dalu Tâl Tadolaeth Statudol yn ôl, hyd yn oed os na fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith.
Os byddwch chi angen mwy o amser o’r gwaith i ofalu am eich plentyn, efallai y gallwch gymryd absenoldeb rhiant. Gallwch gymryd cyfnod penodol o absenoldeb rhiant heb i hynny effeithio ar eich hawl i ddychwelyd. Os byddwch chi’n cymryd mwy na’r cyfnod hwnnw, gallwch ddychwelyd i'r un swydd oni bai nad yw hynny'n rhesymol ac yn ymarferol bosib. Os felly, rhaid i chi gael cynnig gwaith arall sy’n addas i chi gyda'r un telerau ac amodau a phetaech chi heb fod yn absennol.
Fel rhiant plentyn o dan chwech oed (dan 16 o 6 Ebrill 2009), neu dan 18 oed os yw'r plentyn yn anabl, mae gennych hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg. Gall hyn eich helpu i gael cydbwysedd rhwng gweithio a gofalu am eich plentyn. Rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais ac ymateb i chi’n ysgrifenedig.
Os byddwch chi’n wynebu problemau tra’ch bod ar absenoldeb rhiant, mynnwch sgwrs â’ch pennaeth neu’r sawl sydd uwch eu pen, neu ewch at yr adran adnoddau dynol neu bersonél. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.
Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
Os byddwch chi'n dal i fod yn anhapus, bydd gennych yr hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy am undebau llafur.