Tra'r ydych ar absenoldeb mamolaeth caiff amodau eich cyflogaeth eu gwarchod. Mae hyn yn cynnwys eich cyfraniadau pensiwn a'ch hawl i wyliau, ynghyd â hawliau ychwanegol os byddwch yn colli eich swydd. Mae gan eich cyflogwr hefyd hawl i gadw mewn cysylltiad rhesymol â chi ynghylch materion penodol yn ymwneud â gwaith.
Os ydych chi’n disgwyl eich babi ar 5 Hydref 2008 neu wedi hynny, bydd gennych yr un hawliau a buddiannau cyflogaeth ag arfer (ar wahân i'ch cyflog) drwy gydol eich absenoldeb mamolaeth arferol ac ychwanegol. Gall hyn gynnwys unrhyw ddefnydd o gar cwmni neu ffôn symudol sydd gennych fel rhan o'ch contract cyflogaeth. Dim ond yn ystod eich absenoldeb mamolaeth arferol ac ychwanegol y gellir gohirio rhai buddiannau cyflogaeth a ddarperir at ddefnydd busnes. Unwaith eto, gallai hyn fod yn ffôn symudol neu'n gar rhannu.
Ar gyfer babanod y disgwyliwyd iddynt gael eu geni cyn 5 Hydref 2008, gellir gohirio rhai hawliau a buddiannau sy'n rhan o'ch contract yn ystod unrhyw absenoldeb mamolaeth ychwanegol. Bydd eich hawliau cyflogaeth statudol yn parhau.
Os yw eich cyflogwr yn cyfrannu at gynllun pensiwn galwedigaethol, mae'n rhaid iddo barhau i wneud ei gyfraniadau arferol:
Os ydych chi fel arfer yn cyfrannu at eich pensiwn dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar swm y tâl mamolaeth yr ydych yn ei gael.
Os ydych chi’n disgwyl eich babi ar 5 Hydref 2008 neu wedi hynny, byddwch chi’n dal i hel eich holl hawliau i gael gwyliau gyda thâl drwy gydol eich absenoldeb mamolaeth arferol ac ychwanegol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw eich contract yn nodi bod gennych hawl i'r isafswm statudol.
Gallwch ychwanegu gwyliau at ddechrau neu at ddiwedd eich cyfnod o absenoldeb mamolaeth. Mae'n bosib na fyddwch chi'n cael trosglwyddo dim gwyliau y mae gennych hawl iddo ond sydd heb ei gymryd os bydd eich absenoldeb mamolaeth yn pontio dwy flwyddyn wyliau, felly, os yw hynny'n wir, mae'n aml yn well cymryd y gwyliau ar ddechrau'ch cyfnod o absenoldeb.
Ar gyfer babanod a aned cyn 5 Hydref 2008 gallwch yn dal gronni eich hawl i wyliau cytundebol yn ystod eich absenoldeb mamolaeth arferol. Yn ystod unrhyw absenoldeb mamolaeth ychwanegol dim ond eich hawl i wyliau statudol sylfaenol y gallwch gronni.
Mae'n annheg ac yn achos o gamwahaniaethu ar sail rhyw yn awtomatig os bydd eich cyflogwr yn dewis dileu eich swydd chi am reswm sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
Gall eich cyflogwr ddileu eich swydd tra'r ydych ar absenoldeb mamolaeth os gall gyfiawnhau ei ddewis yn deg. Er enghraifft, os yw eich cyflogwr yn cau adran o'i fusnes y byddwch yn gweithio ynddi fel arfer ac yn dileu swydd pob cyflogai yn yr adran honno, caiff eich cyflogwr ddileu eich swydd chi hefyd. Fodd bynnag, os oedd angen i'ch cyflogwr gael gwared ar staff ar draws y cwmni, ni chaiff ddileu eich swydd chi gan eich bod ar absenoldeb mamolaeth neu ar fin mynd ar un.
Os caiff eich swydd ei dileu tra eich bod ar absenoldeb mamolaeth yna mae gennych hawliau arbennig. Hyd yn oed os nad oes gennych y ddwy flynedd o wasanaeth arferol, mae gennych yr hawl i gael cynnig unrhyw swydd arall addas yn y cwmni. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes cyflogeion eraill a allai fod yn fwy addas ar gyfer y swydd. Os cewch gynnig swydd newydd, yna mae gennych hawl i gael y cyfnod prawf pedair wythnos o hyd, a ddylai gychwyn pan fyddwch yn dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth.
Os caiff eich swydd ei dileu tra'r ydych ar absenoldeb mamolaeth, mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi datganiad ysgrifenedig i chi yn egluro ei reswm dros y penderfyniad hwnnw. Dylech hefyd gael eich cyfnod rhybudd arferol neu dâl yn lle rhybudd a thaliad dileu swydd, os oes gennych hawl i'w cael.
Yn ystod eich absenoldeb, gall cadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr fod yn fanteisiol. Mae gan eich cyflogwr hawl hefyd i gadw mewn cysylltiad rhesymol â chi yn ystod eich absenoldeb mamolaeth. Efallai mai'r rheswm am hyn yw er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y gweithle tra'r ydych wedi bod i ffwrdd, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd am ddyrchafiad neu swyddi gwag.
Bydd eich absenoldeb a'ch tâl mamolaeth fel arfer yn dod i ben pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag, mae gennych hawl i weithio am hyd at ddeg diwrnod yn ystod eich absenoldeb mamolaeth heb golli Tâl Mamolaeth Statudol (neu Lwfans Mamolaeth os mai dyna ydych chi’n ei gael) neu ddod â'ch absenoldeb i ben.
Ni ellir gweithio yn ystod y 'dyddiau cadw mewn cysylltiad' hyn onid ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno ar hynny. Ni chewch weithio yn ystod absenoldeb mamolaeth gorfodol sef y pythefnos yn syth ar ôl i chi eni eich plentyn. Er y gallant fod yn ddefnyddiol tu hwnt ar gyfer pethau fel hyfforddiant neu ddigwyddiadau tîm, gellir defnyddio dyddiau cadw mewn cysylltiad ar gyfer unrhyw fath o waith. Dylent ei gwneud yn haws i chi ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich absenoldeb.
Bydd angen i chi gytuno â'ch cyflogwr pa waith y mae angen i chi ei wneud ar ddyddiau cadw mewn cysylltiad a faint o dâl gewch chi.
Os byddwch chi'n beichiogi eto yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth, bydd gennych yr hawl i gyfnod arall o absenoldeb mamolaeth arferol ac absenoldeb mamolaeth ychwanegol.
Os na chewch eich hawliau, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith e.e. swyddog undeb llafur, mae'n bosib y gall eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen 'Cysylltiadau cyflogaeth'. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor neu gefnogaeth ganddyn nhw hefyd.