Os bydd eich plentyn yn aros mewn addysg ar ôl 16, gallai'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg roi hyd at £30 yr wythnos i'ch plentyn i helpu gyda'r costau. Ni fydd yn cael dim effaith ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych chi yn eu cael.
Mae llond gwlad o ddewisiadau dysgu ar gael i'ch plentyn os yw'n 16, yn 17 neu'n 18 oed ac wedi gadael addysg orfodol neu ar fin gwneud hynny.
Beth bynnag y mae'n dymuno ei wneud, mae cwrs ar gael sy'n addas i'w uchelgais – o waith gweinyddol mewn swyddfa i gyfryngau digidol, o wyddoniaeth a thechnoleg i deithio, twristiaeth a lletygarwch.
A gall ddod o hyd i ffordd o ddysgu sy'n addas ar ei gyfer hefyd. Gallai hyn olygu aros yn y chweched dosbarth, mynd i'r coleg neu ddysgu yn y gwaith.
Oes arnoch eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cynnig y cyngor iawn? Cysylltwch â'ch gwasanaeth Connexions lleol i gael arweiniad ar gyrsiau a dewisiadau gyrfa.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yno i helpu gyda chostau eich plentyn os bydd yn aros mewn addysg.
Os yw incwm eich cartref yn llai na £30,810 gall eich plentyn gael £10, £20 neu £30 yr wythnos fel help at gost llyfrau, teithio neu offer.
| Incwm eich cartref (blwyddyn ariannol 2008-09): | Faint o Lwfans Cynhaliaeth Addysg allai eich plentyn ei gael |
|---|---|
| hyd at £20,817 y flwyddyn | £30 yr wythnos |
| £20,818 - £25,521 y flwyddyn | £20 yr wythnos |
| £25,522 - £30,810 y flwyddyn | £10 yr wythnos |
| mwy na £30,810 y flwyddyn | ni fyddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg |
Caiff yr arian hwn ei dalu'n syth i gyfrif banc eich plentyn. I gael ei daliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd angen iddo agor cyfrif os nad oes ganddo un eisoes.
Os yw eich plentyn eisoes yn cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg ac yn parhau â'i gwrs, mae'n bosib y bydd yn gymwys yn awtomatig i gael yr un taliadau yn ystod 2009/10 – hyd yn oed os yw incwm eich cartref wedi cynyddu.
Ewch i 'Gwneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg' i ganfod a yw'ch plentyn yn gymwys i gael taliadau awtomatig dan 'warantiad Lwfans Cynhaliaeth Addysg'.
Mae'n hawdd gwneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Dilynwch y ddolen isod i gael gafael ar ffurflen gais.
Oni bai fod eich plentyn yn gymwys i gael taliadau ychwanegol dan warantiad Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd angen iddo lenwi ffurflen gais ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Ar ôl i'ch plentyn lenwi'r cais bydd angen i chi hefyd ddarparu rhywfaint o wybodaeth ac anfon tystiolaeth o incwm eich cartref ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol.
Gallai hyn fod yn Hysbysiad am Ddyfarniadau Credyd Treth (TC602), neu ffurflen P60.
I gael mwy o wybodaeth am y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (ac am fathau eraill o gymorth ariannol i helpu i aros mewn addysg), ffoniwch llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Y newyddion da yw nad yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill y gallech fod yn eu hawlio yn barod. Felly mae gennych yr hawl i barhau i hawlio Budd-dal Plant, credydau treth a mathau eraill o gymorth.