Mae'r Fargen Newydd ar gyfer rhieni unigol, sy'n rhaglen wirfoddol, ar gael i rieni unigol nad ydynt yn gweithio neu i rieni unigol sy'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos, mewn achosion lle mae'r plentyn ieuengaf dan 16 oed.
Os byddwch yn cytuno i gymryd rhan bydd gennych gynghorydd personol a fydd yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i swydd addas neu hyfforddiant ac yn gallu cyfrifo pa mor dda y gallai pethau fod i chi o safbwynt arian pe baech yn gweithio. Bydd cymorth ychwanegol ar gael er mwyn eich helpu â chostau teithio a gofal plant cofrestredig tra'ch bod chi'n chwilio am waith neu'n ymgymryd â hyfforddiant dan awdurdod.