Os ydych chi'n magu plentyn a chithau'n unig riant ceir ystod eang o gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo, p'un ai a ydych yn gweithio, yn chwilio am waith neu'n methu gweithio.
Mae Cynhaliaeth Plant yn gymorth ariannol rheolaidd. Bydd yn cael ei dalu gan y rhiant nad yw'n byw gyda'r teulu i'r rhiant â gofal er mwyn helpu gyda chostau byw bob dydd y plentyn. Gellir ei drefnu drwy'r Asiantaeth Cynnal Plant neu drwy drefniant preifat gyda'r rhiant arall. Nid yw cyfrifoldeb ariannol rhiant dros ei blentyn yn dod i ben os bydd y berthynas gyda'r rhiant arall yn dod i ben.
Os ydych chi (neu'ch partner presennol, yr ydych yn byw gydag ef/hi) yn hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, ni fydd £20 cyntaf unrhyw daliadau cynhaliaeth a gewch bob wythnos yn effeithio ar y budd-daliadau hynny.
Mae gan y DU drefniadau â dros 100 o wledydd a thiriogaethau, sy'n golygu y gall person sy'n byw mewn un wlad hawlio taliadau cynhaliaeth gan gyn bartner sy'n byw mewn gwlad neu diriogaeth arall. Gorfodaeth Ddwyffordd gyda Gorchmynion Cynnal – neu REMO – yw'r enw a ddefnyddir yn y DU ar gyfer y broses hon. Y llysoedd sy'n delio â hawliadau REMO.
Dilynwch y ddolen gyntaf isod i weld rhestr o'r holl wledydd y mae gan y DU drefniant REMO â hwy.
Gwneud hawliad yn erbyn rhywun dramor
Os oes gennych eisoes orchymyn llys ar gyfer taliadau cynhaliaeth ers pan oedd eich cyn bartner yn byw yn y DU, dylech gysylltu â'r llys a wnaeth y gorchymyn. Mae'n bosib y bydd y broses REMO yn ceisio gorfodi'r gorchymyn llys sy'n bodoli eisoes yn y wlad arall. Defnyddiwch y ddolen Chwilio am Lys isod i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer y llys. Bydd staff y llys yn gallu egluro'r broses y bydd angen i chi ei dilyn.
Os nad oes gennych orchymyn llys ar gyfer taliadau cynhaliaeth (os mai dim ond asesiad yr Asiantaeth Cynnal Plant sydd gennych, er enghraifft) dylech gysylltu â’ch llys ynadon lleol neu eich llys achosion teulu lleol ynghylch gwneud cais am daliadau cynhaliaeth gan eich cyn bartner sy'n byw dramor. Defnyddiwch y ddolen Chwilio am Lys isod i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich llys lleol.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am uned REMO drwy ddilyn y ddolen olaf isod.
Nid yw'r Bonws Cynhaliaeth Plant ar gael i bobl sy'n cael Cynhaliaeth Plant dan gynllun newydd yr Asiantaeth Cynnal Plant (a gyfrifwyd ar ôl 3 Mawrth 2003). Os ydych chi'n rhiant sy'n gofalu am eich plentyn a bod rhywun yn eich cartref yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, bob wythnos, cewch gadw hyd at £10 o unrhyw Gynhaliaeth Plant a delir ar gyfer eich plentyn. Gelwir hyn yn 'Bremiwm Cynhaliaeth Plant'.
Os ydych chi'n gallu chwilio am waith â thâl amser llawn neu ran-amser fe allech chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi. Cliciwch y ddolen isod i weld a ydych yn gymwys.
Os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd, mae'n bosib y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cynnig cymorth personol ac ariannol i chi er mwyn i chi allu gweithio os yw'n bosib i chi wneud hynny. Os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd, cewch elfen gefnogaeth yn ychwanegol at y gyfradd sylfaenol.
Os nad oes modd i chi weithio'n amser llawn ac nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, mae'n bosib y gallwch chi gael budd-dal Cymhorthdal Incwm. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi. I gael gwybod a ydych yn gymwys ac i wneud cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.
Taliad di-dreth o £40 i unig rieni (£60 i rieni yn Llundain) yw'r Credyd Mewn Gwaith. Fe'i telir i unig rieni sydd wedi hawlio budd-daliadau am flwyddyn neu fwy ac sy'n mynd yn ôl i weithio am o leiaf 16 awr yr wythnos. Telir Credyd Mewn Gwaith am flwyddyn, a hynny ar ben budd-daliadau gwaith eraill. I gael gwybod mwy, holwch rywun yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Gall y Ganolfan Byd Gwaith hefyd helpu gyda chostau gofal plant ar yr amod y bydd eich plentyn yn cael ei warchod gan ddarparwr gofal plant cofrestredig a'ch bod yn gwneud rhywbeth sy'n gysylltiedig â'r yrfa yr ydych wedi'i dewis. Ar ôl i chi ddechrau gweithio, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith, a allai eich galluogi i hawlio'n ôl hyd at 80 y cant o'ch costau gofal plant cymwys.
Un taliad di-dreth yw'r Grant Swydd. Efallai y cewch y taliad hwn pan fyddwch chi'n dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn stopio cael budd-daliadau. Efallai y bydd gennych hawl i gael Grant Swydd os byddwch yn dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos, os nad oes gennych bartner sy'n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos a'ch bod yn disgwyl i'ch gwaith bara am bum wythnos o leiaf. Rhaid eich bod hefyd wedi hawlio un o'r budd-daliadau canlynol am 26 wythnos o leiaf cyn dechrau ar eich swydd newydd:
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi creu Pecyn Dewisiadau ar gyfer unig rieni sy'n ystyried chwilio am waith. Mae'n cynnwys cyngor ar chwilio am waith, gofal plant a chymorth ariannol. Gallwch archebu un drwy ffonio 0800 085 5701.