Efallai bydd eich plentyn yn dymuno gweithio er mwyn ennill arian poced ychwanegol; dyma'r rheolau sy'n berthnasol i blant oedran ysgol gorfodol.
Hyd at y dydd Gwener olaf o Fehefin yn y flwyddyn academaidd pan fydd plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 16 oed, dywedir ei fod o oedran ysgol gorfodol. Ar ôl hyn bydd o oedran gadael ysgol gorfodol (MSLA), a chaiff y plentyn wneud cais am Rif Yswiriant Gwladol a gweithio'n llawn amser.
Mae'n rhaid i blentyn fod yn 13 oed cyn y caiff weithio'n rhan-amser, ac eithrio plant sy'n ymwneud â gwaith teledu, theatr, modelu neu weithgareddau tebyg.
Os cynigir gwaith i blentyn yn y meysydd hyn, bydd angen iddynt gael trwydded perfformio. Cyhoeddir trwyddedau perfformio gan yr awdurdod lleol. Cyn rhoi trwydded bydd yr awdurdod yn cysylltu â phennaeth ysgol y plentyn er mwyn gwneud yn siŵr na fydd addysg y plentyn yn dioddef pe bai'r drwydded yn cael ei rhoi.
Bydd angen hebrwng plentyn sy'n ymwneud â pherfformio - gallai hynny gynnwys perfformio ar y teledu, mewn ffilmiau, mewn theatr, mewn gweithgareddau chwaraeon neu waith modelu. Trwyddedir hebryngwyr gan yr awdurdod lleol.
Yn ystod tymor ysgol caiff plant weithio uchafswm o 12 awr yr wythnos bob wythnos, ac o'r rhain cânt weithio:
Yn ystod gwyliau ysgol caiff plant rhwng 13 a 14 oed weithio uchafswm o 25 awr yr wythnos, ac o'r rhain cânt weithio:
Yn ystod gwyliau ysgol caiff plant rhwng 15 a 16 oed weithio uchafswm o 35 awr yr wythnos, ac o'r rhain cânt weithio:
Yr isafswm cyflog cenedlaethol yw £4.60 yr awr i bobl ifanc rhwng 18 a 21 oed a £5.52 yr awr i bobl 22 oed a hŷn. Mae pobl ifanc rhwng 16 a 17 oed (dros Oedran Gadael yr Ysgol Gorfodol) yn cael £3.40 yr awr.
Nid yw prentisiaid sy'n iau na 19 oed yn gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ac nid yw prentisiaid sy'n 19 oed neu'n hŷn yn gymwys i'w gael chwaith yn ystod 12 mis cyntaf eu prentisiaeth.
Mae'n rhaid i gyflogwyr roi gwybod i adran addysg eu cyngor lleol eu bod wedi cyflogi plentyn o oedran ysgol. Os bydd y cyngor yn fodlon â'r trefniadau rhoddir trwydded cyflogaeth i'r plentyn. Ni fydd plentyn wedi'i yswirio heb un.
Ni fydd angen trwydded cyflogaeth ar blant ar gyfer cymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith a drefnir gan ei ysgol.
Mae deddfau lleol yn rhestru'r swyddi y gall plant 13 oed eu gwneud. Ni chaiff unrhyw un 13 oed weithio mewn swydd nad yw'n ymddangos ar y rhestr. Mae deddfau lleol yn rhoi cyfyngiadau pellach ar oriau ac amodau gwaith a natur y gyflogaeth. Am gyngor a chymorth neu er mwyn gwneud cais am drwydded cyflogaeth cysylltwch ag adran addysg eich cyngor lleol neu'ch gwasanaeth lles addysg.