Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawliau a chyfrifoldebau rhieni

Yn wahanol i famau, nid oes gan dadau 'gyfrifoldeb rhiant' dros eu plant bob amser. Bellach, gyda mwy nag un ym mhob tri phlentyn yn cael eu geni y tu allan i briodas, mae'n bosib nad yw ambell riant yn deall pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant dros eu plant yn ôl y gyfraith.

Beth yw cyfrifoldeb rhiant?

Er nad yw'r gyfraith yn diffinio cyfrifoldeb rhiant yn fanwl, mae'r rhestr ganlynol yn nodi'r prif swyddogaethau:

  • darparu cartref i'r plentyn
  • cael cysylltiad â'r plentyn a byw gyda'r plentyn
  • cynnal y plentyn a'i gadw'n ddiogel
  • disgyblu'r plentyn
  • dewis a sicrhau addysg ar gyfer y plentyn
  • penderfynu ar grefydd y plentyn
  • cytuno i driniaeth feddygol ar gyfer y plentyn
  • enwi'r plentyn a chytuno i unrhyw newid yn enw'r plentyn
  • cyd-deithio gyda'r plentyn oddi allan i'r DU a chytuno i ymfudiad y plentyn, os yw'r mater yn codi
  • bod yn gyfrifol am eiddo'r plentyn
  • penodi gwarcheidwad ar gyfer y plentyn, os oes angen
  • caniatáu i wybodaeth gyfrinachol am y plentyn gael ei rhyddhau

Pwy sydd â’r cyfrifoldeb rhiant?

Yng Nghymru a Lloegr, os yw rhieni'r plentyn yn briod â'i gilydd adeg yr enedigaeth, neu os ydynt wedi mabwysiadu'r plentyn ar y cyd, mae gan y ddau ohonynt gyfrifoldeb rhiant. Nid yw rhieni'n colli cyfrifoldeb rhiant os ydynt yn ysgaru, ac mae hyn yn wir i'r rhiant sy'n byw gyda'r plentyn a'r rhiant arall.

Nid dyma'r drefn awtomatig i rieni dibriod. Yn ôl y gyfraith bresennol, mae gan y fam gyfrifoldeb rhiant dros ei phlentyn bob amser. Fodd bynnag, nid oes gan y tad gyfrifoldeb rhiant oni bai ei fod yn briod â'r fam pan mae'r plentyn yn cael ei eni, neu os yw wedi cael cyfrifoldeb cyfreithiol dros ei blentyn drwy un o'r llwybrau canlynol:

  • (o 1 Rhagfyr 2003) drwy gofrestru genedigaeth y plentyn ar y cyd â'r fam
  • drwy gytundeb cyfrifoldeb rhiant ffurfiol gyda’r fam
  • drwy orchymyn cyfrifoldeb rhiant gan lys

Nid yw byw gyda'r fam, hyd yn oed am gyfnod hir, yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i'r tad, ac os nad yw'r rhieni wedi priodi, nid yw'r cyfrifoldeb rhiant bob amser yn cael ei basio ymlaen i'r tad naturiol os yw'r fam yn marw.

Mae gan bob rhiant (gan gynnwys rhieni sy'n mabwysiadu) ddyletswydd gyfreithiol i gefnogi eu plentyn yn ariannol, os oes ganddynt gyfrifoldeb rhiant ai peidio.

Gwneud cais i'r llys am gyfrifoldeb rhiant

Gall tad wneud cais i'r llys er mwyn cael cyfrifoldeb rhiant. Wrth ystyried cais y tad, bydd y llys yn ystyried y canlynol:

  • faint o ymrwymiad y mae'r tad wedi ei ddangos at ei blentyn
  • sut berthynas sydd rhwng y tad a'r plentyn
  • rhesymau'r tad dros wneud cais am y gorchymyn

Yna bydd y llys naill ai'n penderfynu derbyn neu wrthod y cais, yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'r plentyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU