Gellir datblygu sgiliau rhif eich plentyn drwy gyfrwng straeon, caneuon, gemau a chwarae dychmygus. Mae sawl cyfle i ddysgu am fathemateg wrth wneud pethau bob dydd megis pwyso cynhwysion wrth goginio.
Mae mwy i fathemateg na dysgu sut i gyfri. Mae gallu mesur a gweld siapiau hefyd yn rhan bwysig o ddatblygiad eich plentyn.
Mae'n bosib y bydd eich plentyn yn dechrau adnabod rhifau'n ifanc iawn. Yna, byddan nhw'n dysgu sut i gyfri, ac yn defnyddio'u sgiliau gyda rhifau i ddatrys problemau.
Er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau cyfri'ch plentyn, fe allech chi:
Bydd eich plentyn yn dysgu defnyddio geiriau'n naturiol i gymharu'r pethau maen nhw'n eu gweld, er enghraifft mwy neu lai, talach neu fyrrach. Yna, byddan nhw'n dysgu am y pethau sydd eu hangen i fesur pethau - clorian i bwyso, tâp mesur i fesur hyd, clociau i fesur amser.
I ddatblygu sgiliau mesur eich plentyn, fe allech chi:
Ar ôl dysgu am enwau siapiau, y cam nesaf yn natblygiad dysgu eich plentyn fydd disgrifio beth mae'r gwahanol siapiau'n gallu'i wneud a sut bethau ydyn nhw.
Gallwch annog eich plentyn i fod â diddordeb mewn siapiau drwy: