Mae amrywiaeth eang o ofal plant a dysgu blynyddoedd cynnar ar gael i'ch plentyn. Wrth gael gwybod am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, fe allwch benderfynu beth sydd orau ar eich cyfer chi ac ar gyfer anghenion eich plentyn.
Mae dysgu cynnar yn rhoi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i'ch plentyn. Drwy ddysgu a chwarae gyda phlant eraill mewn amgylchedd diogel a strwythuredig, byddant wedi cael dechrau da pan ddaw'n amser iddynt fynd i'r ysgol.
Gellir cael dysgu cynnar drwy'r canlynol:
I gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol. Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant roi cymorth a chyngor i chi gyda phob agwedd ar ddysgu cynnar a gofal plant, a gall eich helpu i ddod o hyd i'ch Canolfan Blant Cychwyn Cadarn leol. Cewch rif eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol drwy ffonio 08002 346 346.
Gallwch hefyd chwilio am feithrinfeydd, gofal plant ac ysgolion ar-lein. Mae'r ddolen isod yn gadael i chi deipio'ch cod post yn y blwch i gael rhestr o ddarparwyr yn eich ardal chi.
Mae gan bob plentyn 3 a 4 oed yn Lloegr hawl i 12.5 awr o ddysgu cynnar am ddim bob wythnos am 38 wythnos o'r flwyddyn. Bydd hyn yn codi i 15 awr yr wythnos o 2010, i'w ddarparu'n hyblyg dros isafswm o dri diwrnod.
Mae dau fath o ysgolion a dosbarthiadau meithrin: rhai sy'n dod dan adain y wladwriaeth a rhai preifat. Meithrinfeydd preifat yw'r rhan fwyaf o feithrinfeydd dydd.
Bydd y rhan fwyaf o feithrinfeydd:
Mae dau oedolyn o leiaf ar gyfer pob 20 i 26 plentyn mewn ysgolion a dosbarthiadau meithrin - rhaid i un ohonynt fod yn athro/athrawes c/gymwysedig, a rhaid i'r llall fod yn gynorthwy-ydd meithrin cymwys.
Mae gan feithrinfeydd dydd gymhareb staffio fwy dwys a gwahanol reolau am gymwysterau'r staff, yn dibynnu ar oedran y plant y gofelir amdanynt.
Gwneud cais am le mewn meithrinfa yn eich ardal chi
Gallwch ddilyn y ddolen isod i wneud cais am le mewn ysgol feithrin ar-lein.
Yn aml iawn, cyrff heb fryd ar wneud elw yw cylchoedd chwarae. Mae'n bosib eu bod yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, a'r rheini'n aml yn cynnwys rhieni.
Bydd y rhan fwyaf o gylchoedd chwarae:
Mae rhai ysgolion cynradd yn gallu derbyn plant dan bump oed i ddosbarth derbyn.
Bydd Dosbarthiadau Derbyn:
Fel arfer, bydd gwarchodwyr plant yn gofalu am blant yn eu cartref eu hunain. Gall y rheini sy'n cynnig lleoliadau dysgu cynnar am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed fod wedi'u cofrestru gydag Ofsted ac wedi'u hachredu fel rhan o rwydwaith sicrhau ansawdd awdurdod lleol. Bydd pob gwarchodwr plant sy'n gofalu am blant dan wyth oed yn cytuno i gadw at safonau ansawdd penodol a rhaid iddynt gael eu cofrestru, eu harolygu a'u harchwilio'n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i ofalu am blant.
Bydd gwarchodwyr plant:
Mae canolfannau plant Cychwyn Cadarn yn gallu darparu dysgu cynnar a gofal dydd llawn i blant dan bump oed, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau eraill fel cefnogi teuluoedd a gwasanaethau iechyd. Byddant ar agor am isafswm o 10 awr y dydd, bum niwrnod yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn.