Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofyn cwestiynau ac edrych ar safonau wrth ddewis addysg gynnar i blant dan bump

Mae cynnal cynlluniau sicrhau ansawdd ac arolygiadau rheolaidd ar ddarparwyr addysg cyn-ysgol yn help i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg o safon uchel. Hefyd, mae nifer o gwestiynau y gallwch eu gofyn pan fyddwch chi'n ymweld.

Safonau ansawdd ar gyfer gofal plant ac addysg gynnar

Bydd llawer o ddarparwyr addysg gynnar, megis meithrinfeydd, cylchoedd chwarae a gwarchodwyr plant achrededig yn cael eu cofrestru a'u harolygu gan y Swyddfa Safonau Addysg (Ofsted). Rhaid i bob sefydliad o'r fath fodloni set o 14 o safonau cenedlaethol ar gyfer gofal plant. Bydd ysgolion meithrin a dosbarthiadau meithrin a derbyn ysgolion cynradd hefyd yn cael eu harolygu gan Ofsted.

Bydd llawer o ddarparwyr addysg gynnar hefyd yn cael eu hachredu drwy gyfrwng cynllun sicrwydd ansawdd (SA). Dim ond os bydd darparwyr yn cyrraedd safonau penodol y bydd cynlluniau SA yn eu hachredu, a rhaid iddynt ymrwymo i gadw'r safonau hynny drwy fonitro'u gwaith.

Wrth chwilio am ddarparwr addysg gynnar i'ch plentyn, gallwch edrych i weld a ydyn nhw wedi'u cofrestru i ddarparu addysg gynnar a darllen copi o'u hadroddiad arolygu diweddaraf. Gallwch hefyd gael gwybod a ydyn nhw'n perthyn i gynllun SA. Hefyd, mae bob amser yn werth siarad â rhieni eraill sydd wedi defnyddio'ch dewis ddarparwr.

Rhestr atgoffa ar gyfer addysg gynnar a gofal plant

Mae'n debyg bod gennych syniad da o'r hyn sydd orau ar eich cyfer chi ac anghenion eich plentyn, ond efallai y byddai'r rhestr atgoffa isod hefyd yn awgrymu ambell beth cyffredinol i chwilio amdano wrth ddewis addysg i blentyn dan oed ysgol mewn meithrinfa, cylch chwarae neu hyd yn oed gyda gwarchodwr plant.

Gwybodaeth gyffredinol

Efallai yr hoffech gael gwybod am:

  • amseroedd agor a dyddiadau gwyliau
  • taliadau a thaliadau adeg gwyliau
  • prydau iach a deiet arbennig
  • trefniadau mewn argyfwng
  • polisi cyfle cyfartal
  • polisïau amddiffyn plant
  • faint o staff sydd ar gyfer faint o blan

Edrych ar ddysgu

Efallai yr hoffech holi:

  • sut mae'r gweithgareddau'n cael eu cynllunio er mwyn darparu cwricwlwm y Cyfnod Sylfaenol.
  • am yr amrywiaeth o adnoddau ac offer sydd ar gael i gefnogi'r dysgu
  • sut y diwellir unrhyw anghenion addysg ychwanegol ac arbennig
  • sut fyddwch chi'n cael gwybod am ddysgu a chynnydd eich plentyn a sut fyddwch chi'n cael bod yn rhan o hynny
  • sut gaiff y plant gyfrannu at gynllunio'r gweithgareddau
  • a oes darpariaeth i'r staff barhau i ddysgu am blant a'u hanghenion

Plant 

Efallai yr hoffech holi: 

  • a yw'r plant yn fodlon eu byd, yn ddiogel, yn hapus ac yn cyd-chwarae
  • beth fydd yn digwydd pan fydd eich plentyn yn sâl
  • a fydd eich plentyn yn cyfarfod â'r un plant ac oedolion bob tro y byddan nhw'n dod yno

Y staff

Efallai yr hoffech gael gwybod a yw'r staff:  

  • yn gyfeillgar ac yn groesawgar
  • yn gwrando, yn sgwrsio ac yn ymwneud yn briodol â'r plant
  • yn gymwys ac yn brofiadol
  • yn ymwybodol o gyfrinachedd a phreifatrwydd
  • yn rheoli ymddygiad mewn ffordd briodol
  • yn gweithio mewn partneriaeth â'r rhieni ac yn barod i drafod eu pryderon a gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei wybod am eu plentyn

Yr amgylchedd

Edrychwch y tu mewn i'r adeilad ac ar y tu allan i weld:

  • a yw'n ddiogel, yn lân ac wedi'i warchod yn ddigonol
  • a yw'n groesawgar ac yn sbarduno'r plant
  • a oes digon o le i'r plant symud o gwmpas dan do a'r tu allan

a oes llefydd i'r plant orffwys

Cael gwybod mwy

Gallwch dderbyn help a chyngor gyda phob agwedd o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar wrth eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant (CIS) lleol. Dewch o hyd i rif eich CIS agosaf drwy ffonio 08000 96 02 96.

Am ragor o wybodaeth ynghylch gofal plant, cliciwch ar y ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU