Mae'r Cyfnod Sylfaenol ar gyfer plant rhwng tair a phump oed, sef y blynyddoedd y byddan nhw'n eu treulio o ddechrau'r ysgol feithrin neu'r cyfnod cyn-ysgol i ddiwedd dosbarth derbyn yr ysgol gynradd. Cydnabyddir bod hwn yn gam penodol yn y broses ddysgu, pan fydd plant yn dysgu orau drwy chwarae gweithredol sy'n adeiladu ar sail eu hanghenion a'u diddordebau fel unigolion.
Bydd gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i gael lle yn ystod y Cyfnod Sylfaenol dan nawdd y llywodraeth mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau derbyn mewn ysgolion cynradd, meithrinfeydd, grwpiau cyn-ysgol a Chanolfannau i Blant, a chyda gofalwyr plant achrededig mewn rhwydweithiau gofal plant sydd wedi'u cymeradwyo.
I gael gwybod mwy, gweler 'Blynyddoedd cynnar - ble gall eich plentyn ddysgu'.
Caiff plant ifanc amrywiaeth eang o wahanol brofiadau, sgiliau a diddordebau pan fyddant yn dair, yn bedair neu'n bump oed ac yn cychwyn mynd i ysgol neu leoliad tebyg. Bydd arnynt angen cwricwlwm wedi'i gynllunio'n dda gyda digon o adnoddau i ddatblygu eu haddysg ac i ddarparu cyfleoedd fel y gall pob plentyn lwyddo mewn awyrgylch lle byddant yn teimlo eu bod yn derbyn gofal ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Rhennir Y Cam Sylfaenol yn chwech adran:
Bydd eich plentyn yn dysgu bod yn hunan-hyderus, yn cymryd diddordeb mewn pethau, yn gwybod beth yw ei anghenion, yn gallu gwahaniaethu rhwng da a drwg, ac yn gallu gwisgo a dadwisgo.
Bydd eich plentyn yn dysgu siarad yn hyderus ac yn glir, yn mwynhau straeon, caneuon a cherddi, gwrando ar synau a'u llefaru, a'u cysylltu â'r wyddor. Byddant yn darllen ac yn ysgrifennu ambell air cyfarwydd ac yn dysgu defnyddio pensil.
lBydd eich plentyn yn meithrin dealltwriaeth o fathemateg drwy gyfrwng straeon, caneuon, gemau a chwarae dychmygus. Byddant yn dod yn gyfforddus â defnyddio rhifau a syniadau megis 'trymach na' neu 'fwy na'. Byddant yn ymwybodol o siapiau a gofod.
Bydd eich plentyn yn archwilio ac yn cael gwybod am y byd o'u cwmpas, gan ofyn cwestiynau amdano. Byddant yn adeiladu gyda gwahanol ddeunyddiau, yn gwybod am dechnoleg bob dydd ac yn dysgu i beth mae'r dechnoleg honno'n dda. Byddant yn cael gwybod am ddigwyddiadau'r gorffennol yn eu bywydau nhw a bywydau eu teulu. Byddant yn cael gwybod am wahanol ddiwylliannau a chredoau.
Bydd eich plentyn yn dysgu symud yn hyderus, gan reoli'r corff a thrin offer.
Bydd eich plentyn yn archwilio lliwiau a siapiau, yn rhoi cynnig ar ddawnsio, gwneud pethau, adrodd straeon a chreu cerddoriaeth.
Nid yw'r nodau'n rhoi pwysau ar eich plentyn oherwydd y rhan fwyaf o'r amser, maen nhw'n teimlo'u bod yn chwarae ac yn cael hwyl. Weithiau, byddant yn dewis beth maen nhw am ei wneud. Dro arall, byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n eu helpu i ddysgu sut i ganolbwyntio ar sgìl benodol neu ei datblygu, megis defnyddio siswrn neu ludo cerdyn.
Gwneir asesiad ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaenol ac fe elwir hyn yn Broffil y Cyfnod Sylfaenol.
Cynllun cenedlaethol yw Proffil y Cyfnod Sylfaenol sy'n galluogi athrawon i gofnodi'r hyn maen nhw'n ei weld a chrynhoi llwyddiannau eich plentyn ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaenol. Fe'i defnyddir i grynhoi eu llwyddiannau o ran Nodau Dysgu Cynnar y Cyfnod Sylfaenol ac mae'n cynnwys pob un o'r chwe maes dysgu. Bydd athrawon yn cofnodi cyflawniad eich plant ar sail yr hyn a welsant yn ystod y Flwyddyn Dderbyn. Does dim rhaid iddynt wneud gweithgareddau asesu penodol.