Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dysgu cynnar am ddim i blant tair a phedair oed

Bydd dysgu cynnar am ddim yn rhoi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i'ch plentyn. Drwy ddysgu a chwarae gyda phlant eraill mewn amgylchedd diogel a strwythuredig, byddant ar y blaen pan ddaw'n amser iddynt gychwyn yn yr ysgol.

Beth mae gennych hawl iddo

Mae gan plant 3 a 4 oed yn Lloegr hawl i isafswm o 12.5 awr o ddysgu cynnar am ddim bob wythnos am 38 wythnos o'r flwyddyn. Gall hyn cael ei gynnal mewn meithrinfeydd, grwpiau chwarae, cylchoedd cyn-ysgol neu gyda gwarchodwr plant.

Bydd hyn yn codi i 15 awr yr wythnos o 2010, ac yn cael ei ddarparu'n hyblyg dros isafswm o dri diwrnod.

Pan fydd eich plentyn yn gymwys i gael lle am ddim

Mae’r tabl isod yn dangos pryd y bydd eich plentyn yn gymwys i gael mynd i leoliad dysgu cynnar am ddim.

Os genir eich plentyn rhwng: Mae'n gymwys i gael lle am ddim o:

1 Ebrill a 31 Awst

1 Medi yn dilyn eu trydydd pen-blwydd nes iddynt gyrraedd oedran ysgol statudol

1 Medi a 31 Rhagfyr

1 Ionawr yn dilyn eu trydydd pen-blwydd nes iddynt gyrraedd oedran ysgol statudol

1 Ionawr a 31 Mawrth

1 Ebrill yn dilyn eu trydydd pen-blwydd nes iddynt gyrraedd oedran ysgol statudol

Cymorth ariannol ychwanegol

Mae’n bosib na fydd yr hawliad am ddim yn ddigonol ar gyfer anghenion eich teulu chi oherwydd ymrwymiadau gwaith. Os felly, mae'n bosib y gallech gael cymorth ariannol ar gyfer costau gofal plant ychwanegol.

Dod o hyd i ddarparwr blynyddoedd cynnar am ddim sy'n addas i chi

Mae nifer o wahanol fathau o leoliadau addysg gynnar a all gynnig yr hawliad am ddim:

  • meithrinfeydd dydd, ysgolion meithrin preifat, ysgolion meithrin cynaledig a dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd
  • ysgolion meithrin a chylchoedd chwarae
  • dosbarthiadau derbyn ysgolion cynradd, lle bydd gan ysgolion bolisi derbyn cynnar i dderbyn plant pedair oed
  • gwarchodwyr plant achrededig sy'n rhan o rwydweithiau a gymeradwywyd i ddarparu addysg gynnar
  • Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn

Er nad oes sicrwydd o gael lle gyda darparwr arbennig, dylai'ch awdurdod lleol ystyried eich dewis pan fyddo hynny'n bosib.

Nid oes taleb na grant i'w cael – ond holwch eich Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu lleol i wneud yn siŵr bod y darparwr yr hoffech ei ddefnyddio wedi'i gofrestru i gynnig yr hawliad. Cewch rif eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol drwy ffonio 08002 346 346.

Safonau ar gyfer darparwyr addysg gynnar am ddim

Mae'n ofynnol bod pob sefydliad sy'n cael nawdd gan y llywodraeth i ddarparu addysg gynnar am ddim i blant rhwng tair a phump oed:

  • wedi eu cynnwys yng Nghyfeiriadur Darparwyr yr awdurdod lleol
  • yn helpu plant i wneud cynnydd tuag at y 'nodau dysgu cynnar' a amlinellir yn y Cyfnod Sylfaenol Blynyddoedd Cynnar
  • yn cael ei arolygu'n rheolaidd gan Ofsted

Golyga hyn y bydd eich plentyn yn cael addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd da, pa bynnag fath o leoliad y byddant yn ei fynychu.

Beth fydd eich plentyn yn ei ddysgu

Mae'r Cyfnod Sylfaenol yn canolbwyntio ar anghenion penodol plant o eni i bum mlwydd oed.

Allweddumynediad llywodraeth y DU