Os yw eich plentyn yn cael anhawster dysgu, bydd eich darparwr addysg gynnar, megis meithrinfa neu gylch chwarae, yn gallu rhoi cymorth ychwanegol er mwyn diwallu ei anghenion. Mae'r Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig yn rhoi cyfarwyddyd am wahanol lefelau o gefnogaeth.
Os nad yw'ch plentyn yn mynychu meithrinfa neu leoliad blynyddoedd cynnar arall, gallwch siarad â'ch cyngor lleol – gall eu tîm blynyddoedd cynnar a gofal plant eich helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant briodol a gall eu tîm AAA roi cyngor i chi am anghenion addysgol arbennig. Fel arall, gallech gysylltu â Chanolfan Cychwyn Cadarn yn eich ardal i gael help.
Os ydych chi'n poeni am addysg eich plentyn, trefnwch gyfarfod gydag athro/athrawes eich plentyn neu gyda'r cydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCO) ym meithrinfa'ch plentyn neu mewn lleoliad blynyddoedd cynnar arall.
Rhaid i bob canolfan cyn-ysgol a meithrinfa sy'n cael arian cyhoeddus ystyried y 'Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig'. Mae hwn yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol ynghylch sut i adnabod plant sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Gallwch ddarllen crynodeb o'r cod yn y daflen, 'AAA: canllaw i rieni a gofalwyr'. Os nad yw eich plentyn yn mynychu meithrinfa neu grŵp chwarae, cysylltwch â thîm AAA eich cyngor lleol i gael cyngor.
Os oes angen cymorth arbennig ar eich plentyn i ddysgu, efallai y bydd y feithrinfa neu'r ganolfan cyn-ysgol yn darparu hyn drwy ffordd o helpu plant a elwir yn 'Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar'. Bydd athrawon neu gydlynwyr anghenion addysgol arbennig eich plentyn yn trafod ei h/anghenion gyda chi, yn asesu eu hanghenion, ac yn penderfynu pa help i'w roi. Dylid eich holi ynghylch y cymorth a roddir i'ch plentyn a chanlyniadau'r cymorth hwnnw.
Gallai'r cymorth a roddir dan y rhaglen Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar fod yn ffordd wahanol o ddysgu rhai pethau neu'n gymorth gan oedolyn arall. Efallai y bydd manylion y cymorth a roddir ynghyd â'r targedau tymor-byr ar gyfer dysg eich plentyn yn cael eu hysgrifennu ar ffurf dogfen a elwir yn Gynllun Addysg Unigol (CAU) Fel arall, gellid cofnodi cynnydd eich plentyn yn yr un modd â phob plentyn arall.
Cynlluniau Addysg Unigol
Byddwch chi ac athrawon eich plentyn yn defnyddio'r CAU fel 'cyfrwng' cynllunio ac adolygu. Dylai'r Cynlluniau Addysg Unigol amlinellu:
Os nad yw eich plentyn yn gwneud cynnydd digon da drwy gyfrwng y rhaglen Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar, fe ddylai'r athro/athrawes neu'r Cydlynydd siarad â chi am gael help ychwanegol gan athro/athrawes arbenigol neu therapydd lleferydd, er enghraifft. Gelwir y math hwn o help yn 'Weithredu a Mwy yn y Blynyddoedd Cynnar'.
Mae'n bosib y bydd arbenigwyr allanol yn dechrau drwy asesu'r hyn sydd ei angen. Bydd arbenigwyr yn darparu cyngor ar gyfer y Cynllun Addysg Unigol ac weithiau'n dysgu neu'n rhoi help uniongyrchol i'ch plentyn.
Os bydd angen llawer o gymorth neu adnoddau ychwanegol ar eich plentyn, fe all eich awdurdod lleol gytuno i ddarparu hyn drwy gyfrwng y rhaglen Gweithredu a Mwy yn y Blynyddoedd Cynnar, neu fe allan nhw benderfynu gwneud asesiad statudol.
Bydd nifer o arbenigwyr yn cael eu cynnwys yn yr asesiad statudol (a elwir yn aml yn 'asesiad') a byddan nhw'n penderfynu pa gymorth ychwanegol sydd ei angen ar eich plentyn.
Bydd yr asesiad yn cael gwybod beth yn union yw anghenion eich plentyn, a pha help ychwanegol sydd ei angen arno/arni. Dim ond os na all lleoliad blynyddoedd cynnar neu ysgol eich plentyn ddarparu'r holl help sydd ei angen arnynt y gwneir hyn. Fe'i cynhelir gan eich cyngor lleol, yn seiliedig ar gyngor arbenigol.
Cewch ofyn am asesiad i'ch plentyn a gall meithrinfa neu ysgol eich plentyn wneud hyn hefyd. Os bydd y feithrinfa am ofyn i'r awdurdod lleol gynnal asesiad, dylent bob amser siarad â chi gyntaf.
Mae datganiad anghenion addysgol arbennig (AAA) yn rhestru anghenion eich plentyn a'r cymorth y dylai ei dderbyn. Bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol er mwyn sicrhau bod unrhyw gymorth ychwanegol a roddir yn dal i ddiwallu anghenion eich plentyn.
Os yw eich plentyn dan ddwy oed a'ch bod chi neu'r bobl broffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn yn ysgrifennu'n ffurfiol i ofyn am asesiad statudol, bydd adran addysg eich awdurdod lleol yn ystyried eich cais. Rhaid iddynt gytuno i wneud asesiad os oes angen un ar eich plentyn. Fodd bynnag, i blant dan ddwy oed, bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu sut i gynnal yr asesiad. Y rheswm am hyn yw mai dim ond i blant sy'n ddwy oed a throsodd y mae'r rheolau cyfreithiol am sut i gynnal asesiadau'n berthnasol.
Unwaith y bydd yr asesiad wedi'i gwblhau, bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a ddylid cyhoeddi datganiad anghenion addysgol arbennig. Dylai datganiad AAA ar gyfer plentyn dan ddwy oed yn disgrifio'r canlynol:
Mae rhoi datganiad i blant dan ddwy oed yn beth prin. Os byddwch chi'n teimlo nad yw'r help sy'n cael ei gynnig i'ch plentyn yn diwallu eu hanghenion, yna, efallai y byddai gofyn am asesiad statudol yn ffordd dda o gael yr help rydych chi'n teimlo sydd ei angen.
Pan fydd plentyn yn ddwy oed, bydd rheolau'r gyfraith ar gyfer asesu plentyn a llunio datganiad yn berthnasol. Rhaid i'r awdurdod lleol ddilyn rheolau ac amserlen benodol.
Gallai meithrinfa neu ganolfan cyn-ysgol eich plentyn ofyn i'r awdurdod lleol am i'ch plentyn gael ei asesu. Gallwch chithau hefyd ofyn am i'ch plentyn gael ei asesu a gallwch apelio os yw'r awdurdod lleol yn gwrthod.
Mae'r trefniadau ar gyfer asesu a llunio datganiadau yr un fath â'r rheiny a ddilynir ar gyfer plant oed ysgol.