Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Perfformiad ysgolion: canlyniadau profion ac adroddiadau Ofsted

Wrth ddewis ysgol i'ch plentyn, ewch ati i gasglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch gan yr awdurdod lleol, drwy edrych ar brosbectysau ysgol a thrwy ymweld ag ysgolion. Mae tablau cyflawniad a chyrhaeddiad ac adroddiadau Ofsted yn ffynhonnell arall o wybodaeth. Efallai na fyddant yn rhoi gwybod i chi am bopeth yr ydych am ei wybod, ond gallant fod yn ddefnyddiol wrth lunio rhestr fer.

Cael gwybod am berfformiad ysgol

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu prosbectws ar gyfer rhieni sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am yr ysgol. Efallai y gallech hefyd gael y wybodaeth hon ar-lein.

Dilynwch y ddolen 'Dod o hyd i ysgolion, gofal plant a meithrinfeydd', ac wedyn teipiwch eich cod post i gael manylion cyswllt yr ysgolion wrth eich ymyl, gan gynnwys dolenni i wefannau ysgolion.

Tablau Cyflawniad a Chyrhaeddiad ysgolion

Bob blwyddyn mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn cyhoeddi gwybodaeth am gyflawniad a chyrhaeddiad disgyblion pob ysgol. Mae'r tablau hyn yn ganllaw i ba mor dda y mae ysgol yn llwyddo. Maen nhw'n rhestru canlyniadau profion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pob ysgol yn Lloegr ac yn dangos sut maen nhw'n cymharu ag ysgolion eraill.

Cyhoeddir pedwar tabl bob blwyddyn:

  • Tablau Cyfnod Allweddol 2 (gyda chanlyniadau profion Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer pob ysgol gynradd y wladwriaeth yn Lloegr)
  • Tablau Cyfnod Allweddol 3 (gyda chanlyniadau profion Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer pob ysgol uwchradd y wladwriaeth yn Lloegr)
  • Tablau Cyfnod Allweddol 4 (gyda chanlyniadau TGAU a chymwysterau cyfwerth)
  • tablau ôl-16 (gyda chanlyniadau AS a Safon Uwch cyffredinol a galwedigaethol, Sgiliau Allweddol ar lefel 3, Dyfarniadau Estynedig Uwch, cymwysterau galwedigaethol uwch eraill a chymwysterau galwedigaethol canolradd)

Ni fydd canlyniadau profion yn rhoi darlun cyflawn o ysgol, ond fe allan nhw eich helpu i lunio darlun ehangach o'r ysgol rydych chi'n ei hystyried.

Cael data cyflawniad a chyrhaeddiad ar gyfer ysgolion yn eich ardal chi

Cewch weld data cyrhaeddiad a chyflawniad ar-lein. Dilynwch y ddolen 'Dod o hyd i ysgolion, gofal plant a meithrinfeydd', a rhowch fanylion lle rydych yn byw.

Byddwch yn gallu gweld sut mae pob ysgol yn cymharu gyda'r cyfartaledd ar gyfer ardal eich awdurdod lleol ac ar draws y wlad.

Gallwch hefyd archebu copïau o'r tablau a byddant yn cael eu hanfon atoch.

Darllen adroddiad Ofsted yr ysgol

Bydd Ofsted yn arolygu pob un o ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr bob tair blynedd o leiaf. Ar ôl cwblhau'r arolygiad, bydd Ofsted yn cyhoeddi adroddiad. Pan fydd arolygwyr yn asesu ysgol, byddant yn ystyried tystiolaeth o amryw o ffynonellau, gan gynnwys y canlynol:

  • hunanasesiad yr ysgol (asesiad yr ysgol o'i pherfformiad ei hun)
  • data perfformiad
  • gwaith disgyblion
  • arsylwi ar wersi
  • cyfraniadau gan rieni
  • trafodaethau gyda disgyblion a staff

Bydd adroddiad yr arolygiad yn cynnwys asesiad cyffredinol o effeithlonrwydd yr ysgol, ynghyd â barn benodol am y canlynol:

  • llwyddiannau a safonau
  • datblygiad a lles personol y disgyblion
  • safon yr addysgu a'r dysgu
  • darpariaeth y cwricwlwm
  • y gofal, yr arweiniad a'r gefnogaeth a ddarperir gan yr ysgol
  • y modd yr arweinir ac y rheolir yr ysgol

Beirniedir y rhain ar raddfa pedwar pwynt – mae un yn ‘eithriadol’, dau yn ‘dda’, tri yn ‘foddhaol’ a phedwar yn ‘annigonol’.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r hyn y dylai'r ysgol ei wneud er mwyn gwella. Disgwylir i'r ysgol ddefnyddio awgrymiadau Ofsted yn sail i wneud gwelliannau mor fuan ag y bo modd.

Darllen adroddiadau Ofsted ar-lein

Gallwch ddarllen adroddiadau Ofsted ar-lein drwy ddilyn y ddolen 'Dod o hyd i ysgolion, gofal plant a meithrinfeydd'.

Proffil yr ysgol

Bydd nifer o ysgolion yn rhoi adroddiad ar eu cynnydd yn y meysydd a nodwyd gan Ofsted mewn Proffil Ysgol blynyddol. Gan mai unwaith ym mhob tair blynedd y cynhelir arolygiadau Ofsted fel arfer, efallai y byddwch yn dymuno edrych a yw Proffil Blynyddol yr Ysgol yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yr ysgol.

Mae nifer cyfyngedig o Broffiliau Ysgol ar gael ar-lein, a bydd mwy yn cael eu hychwanegu yn y dyfodol. Gweler 'Dod o hyd i ysgolion, gofal plant a meithrinfeydd' i gael gwybod mwy.

Additional links

Ysgolion: y llun cyflawn

Dod o hyd i ysgolion, adroddiadau Ofsted a llawer mwy: yr adnodd ar-lein mwyaf cyflawn i ysgolion

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU