Gwnewch gais am le mewn ysgol y wladwriaeth yn Lloegr ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen gais gyffredin eich awdurdod lleol. Sicrhewch eich bod yn gwneud cais erbyn y dyddiad cau, neu gallech golli'r cyfle i gael cynnig lle yn yr ysgol o'ch dewis.
Mae awdurdodau lleol yn cydlynu derbyniadau i bob un o ysgolion y wladwriaeth, hyd yn oed os nad yr awdurdod lleol yw awdurdod derbyn yr ysgol.
I wneud cais, dylech lenwi ffurflen gais gyffredin yr awdurdod lleol, ar-lein neu ar bapur. Bydd hon ar gyfer pob ysgol yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw (a hefyd ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill).
Gallwch chwilio am ysgolion yn eich ardal chi drwy ddilyn y ddolen 'Dod o hyd i ysgolion, gofal plant a meithrinfeydd' ac wedyn teipio'ch cod post yn y man priodol.
Bydd ffurflen gais yr awdurdod lleol (neu'r cais ar-lein) yn gofyn i chi restru'ch hoff ysgolion. Efallai y gofynnir i chi nodi un neu ragor o ysgolion cynradd, ac ar gyfer ysgolion uwchradd cewch ddewis o leiaf dair ysgol. Polisi eich awdurdod lleol fydd yn pennu a allwch chi wneud cais i fwy na thair ysgol uwchradd.
I gael copi o'r ffurflen gais ar bapur, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.
Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar-lein am le mewn ysgol. Dilynwch un o'r dolenni isod ac wedyn teipio'ch cod post yn y man priodol. Byddwch wedyn yn mynd i'r dudalen berthnasol ar wefan eich awdurdod lleol.
Gallwch wneud cais unrhyw amser am le mewn ysgol, a bydd rhaid i’ch cais gael ei ystyried yn syth. Er hynny, sicrhewch eich bod yn gwneud cais am le mewn ysgol mewn da bryd: mae'r broses dderbyn yn dechrau o gwmpas dechrau tymor yr hydref ar gyfer mynediad y mis Medi dilynol.
Holwch yr awdurdod lleol i weld erbyn pryd yn union y dylech gyflwyno'ch cais ynghyd â'r cyfeiriad cywir ar gyfer ei anfon. Mae hyn yn bwysig iawn. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, mae'n llai tebygol y cewch gynnig lle yn yr ysgol o'ch dewis.
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn pennu dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ryw bryd yn yr hydref yn y flwyddyn cyn i'ch plentyn ddechrau mewn ysgol, pan fyddant yn dair neu bedair oed.
Gan fod gan y rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau lleol ddosbarth derbyn ar gyfer plant pedair oed, mae'n syniad da dechrau holi am ysgolion cynradd ymhell cyn iddynt droi'n bedair oed.
Dechreuwch ddewis eich hoff ysgol uwchradd cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn mynd i flwyddyn 6.
Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gosod dyddiad cau ym mis Tachwedd neu Ragfyr ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
Bydd yr awdurdod lleol yn anfon llythyr atoch gyda manylion y lle yn yr ysgol ar gyfer eich plentyn ar 1 Mawrth (neu'r diwrnod gwaith nesaf), neu byddan nhw'n anfon e-bost atoch os ydych chi wedi gwneud cais ar-lein ac wedi gofyn am e-bost ganddyn nhw.
Os byddwch chi'n gwneud cais am le i breswylio, mae'n bosib y gofynnir i chi ddod am gyfweliad neu i roi gwybodaeth ychwanegol gyda'ch cais er mwyn i'r awdurdod derbyn allu asesu pa mor addas yw'ch plentyn i breswylio.
Os bydd ysgol yn derbyn mwyn o geisiadau na nifer y llefydd sydd ar gael, bydd yr awdurdod derbyn yn rhoi ei 'feini prawf derbyn' cyhoeddedig ar waith er mwyn penderfynu pa blant a gaiff gynnig lle. Efallai y bydd angen rhagor o wybodaeth ar fathau penodol o ysgolion i'w helpu i roi'r meini prawf hyn ar waith:
Mae'n bosib y gofynnir i'ch plentyn hefyd sefyll prawf os byddwch chi'n gwneud cais i ysgol sy'n dewis disgyblion ar sail gallu, megis ysgolion gramadeg a rhai ysgolion annibynnol.
Os byddwch chi'n symud tŷ a bod rhaid i chi newid ysgol eich plentyn, rhaid i chi fynd drwy'r broses derbyn eto. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol newydd i gael rhagor o wybodaeth. Mae'n syniad da gwneud hyn ymhell cyn i chi symud - efallai y bydd rhai ysgolion yn eich ardal newydd yn llawn yn barod.
Os ydych chi'n anhapus gyda'ch cynnig, yna mae gennych yr hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Edrychwch yn 'Apelio yn erbyn penderfyniad yn gwrthod lle mewn ysgol' i gael gwybod mwy.